Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Iechyd meddwl: Mamau newydd yn cefnogi ei gilydd
Mae criw o famau ym Mhowys wedi sefydlu gr诺p er mwyn cefnogi ei gilydd i ddygymod 芒 phroblemau iechyd meddwl sydd gan rai yn sgil genedigaeth.
Mae'r gr诺p Mums Matter ar y cyd ag elusen Mind Cymru yn annog mamau i drafod materion fel hunanhyder yn ogystal 芒 rhai o'r rhagdybiaethau yngl欧n 芒 mamolaeth o gymharu 芒'r realiti.
Mae unigrwydd mewn mamolaeth yn thema gyson ymhlith y rhieni, sydd, o bosib, yn cael ei waethygu oherwydd eu bod yn byw mewn ardal wledig.
Nododd adroddiad ar iechyd meddwl sy'n gysylltiedig 芒 mamolaeth yng Nghymru mai Powys oedd yr unig un o'r saith bwrdd iechyd yng Cymru heb wasanaeth iechyd meddwl i famau newydd.
Mae rhannau o'r cynllun yn edrych ar drawma genedigaeth ond mae yna bwyslais hefyd ar geisio peidio peri gofid i ferched sy'n feichiog am y tro cyntaf.
Mae sefydliadau sy'n cynnig cyngor ariannol neu wasanaethau iechyd yn dod i siarad 芒'r menywod hefyd.
Dywedodd Trac Lewis o Mind Cymru, sy'n rhedeg y cwrs: "Dim ond dechrau gwella mae pethau o ran y stigma. Mae pobl yn ofni dweud unrhyw beth weithiau oherwydd maen nhw'n meddwl 'maen nhw'n mynd i fynd 芒'm babi i ffwrdd'.
"'Dyn ni am i famau ddeall pa mor gyffredin yw hi i weld pethau'n anodd."