Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru
Mae enwau aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru wedi cael eu datgelu mewn cyhoeddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Fe wnaeth 480 o ymgeiswyr sefyll mewn etholiadau ar draws y 40 etholaeth sy'n cyfateb i etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae 20 aelod pellach wedi cael eu dewis gan sefydliadau eraill gan gynnwys Tros Gynnal Plant, Barnardos Cymru, Youth Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru gyda'r nod o sicrhau amrywiaeth a hawliau cynhwysol i'r corff newydd.
Mae'r 60 aelod sydd wedi eu dewis yn cynnwys 24 o fechgyn a 36 o ferched.
'Torri tir newydd'
Cafodd yr etholiadau eu cynnal gydol mis Tachwedd gyda miloedd o bobl ifanc 11-18 oed yn bwrw'u pleidlais yn electroneg.
Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wnaeth lansio'r ymgyrch i sefydlu Senedd Ieuenctid.
"Dyma gyfle euraidd i rymuso'r genhedlaeth nesaf ac rwy'n hyderus y bydd y gr诺p hwn yn hyrwyddwyr gwych ar gyfer y materion sy'n bwysig i bobl ifanc Cymru heddiw," meddai.
Ychwanegodd wrth raglen Eye On Wales, 大象传媒 Radio Wales: "Mae cefnogaeth drawsbleidiol i sefydlu ac ethol senedd ieuenctid, ac mae'n deg dweud bod cryn dipyn o gyffro yn ein plith fel ACau fod cymaint o bobl ifanc wedi rhoi eu henwau ymlaen fel ymgeiswyr yn eu cymunedau.
"Mae'r etholiad yn torri tir newydd fel y senedd ieuenctid cyntaf i gael ei ethol yn uniongyrchol yn electroneg, felly ry'n ni wedi ei gwneud hi mor hawdd a chyffyrddus 芒 phosib i bobl ifanc bleidleisio yn yr etholiad yma."
Yn unol 芒 chasgliadau panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol, mae cynlluniau ar gyfer cyfraith newydd fydd yn caniat谩u i bobl 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.
Yr Athro Laura McAllister oedd cadeirydd y pwyllgor, a dywedodd: "O edrych ar y dystiolaeth mae cyfleoedd i gau'r bwlch sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng pobl ifanc a'r dosbarth gwleidyddol - mae'r bwlch yn enfawr yn nhermau sut y mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn rhan o wleidyddiaeth nawr a faint o gyfle sydd iddyn nhw fod yn rhan ohono."
Ychwanegodd fod gwell addysg wleidyddol a dinasyddiaeth mewn ysgolion yn rhan hanfodol o leihau'r oed pleidleisio.
"O weld sut mae'n cael ei ddysgu mewn ysgolion... ymwybyddiaeth pobl ifanc o hawliau'r unigolyn i bleidleisio, sut mae pleidleisio, sut mae pwyso a mesur addewidion maniffesto, gwrando ar ddarllediadau gwleidyddol - y gwir amdani yw ein bod yn gadael pobl ifanc heb yr arfau sydd eu hangen i wneud y pethau yna," meddai.
Bydd aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru yn gwasanaethu am dymor o ddwy flynedd, ac fe fydd eu cyfarfod cyntaf ym mis Chwefror 2019 yn y Senedd.
Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru:
Gogledd Cymru
- Ynys M么n - Ifan Wyn Erfyl Jones
- Arfon - Brengain Glyn Williams
- Aberconwy - Evan Burgess
- Gorllewin Clwyd - Harrison James Gardner
- Dyffryn Clwyd - Jonathon Dawes
- Delyn - Thomas Comber
- Alun a Glannau Dyfrdwy - Nia Griffiths
- Wrecsam - Jonathan Powell
- De Clwyd - Talulah Thomas
- Dwyfor Meirionnydd - Ifan Price
- Sir Drefaldwyn - Abbey Carter
- Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru - Grace Barton
- Anabledd Dysgu Cymru - Katie Whitlow
- Tros Gynnal Plant - Hasna Ali
Canolbarth Cymru
- Ceredigion - Caleb Rees
- Brycheiniog a Sir Faesyfed - Arianwen Fox-James
- Preseli Penfro - Rhys Lewis
- Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro - Cai Thomas Phillips
- Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - Marged Lois Campbell
- Llanelli - Megan Carys Davies
- Tros Gynnal - Ellie Murphy
Gorllewin De Cymru
- G诺yr - Ffion-H芒f Davies
- Gorllewin Abertawe - Ubayedhur Rahman
- Dwyrain Abertawe - Ruth Sibayan
- Castell-nedd - Eleanor Lewis
- Aberafan - Kian Agar
- Ogwr - Laine Woolcock
- Pen-y-bont ar Ogwr - Todd Murray
- Rhondda - Alys Hall
- Cwm Cynon - Eleri Griffiths
- Pontypridd - Efan Rhys Fairclough
- Bro Morgannwg - Lleucu Haf Wiliam
- Talking Hands - William Hackett
- Girlguiding Cymru - Nia-Rose Evans
- Anabledd Dysgu Cymru - Anwen Rodaway
- Talking Hands - Sophie Billinghurst
- T卯m Cefnogi Ieuenctid Ethnig/RCC - Sandy Ibrahim
- Barnardo's Cymru - Caitlin Stocks
- Barnardo's Cymru - Casey-Jane Bishop
- Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru - Oliver Davies
Dwyrain De Cymru
- Gorllewin Caerdydd - Manon Clarke
- Gogledd Caerdydd - Betsan Angell Roberts
- Canol Caerdydd - Gwion Rhisiart
- De Caerdydd a Phenarth - Rhian Shillabeer
- Merthyr Tudful a Rhymni - Tommy Church
- Blaenau Gwent - Calen Jones
- Torfaen - Maisy Evans
- Sir Fynwy - Lloyd Mann
- Caerffili -Aled Joseph
- Islwyn - Ffion Griffith
- Gorllewin Casnewydd - Finlay Bertram
- Dwyrain Casnewydd - Charley Oliver-Holland
- EYST/Cyngor Hil Cymru - Angel Ezeadum
- Urdd Gobaith Cymru - Greta Evans
- Youth Cymru - Abbie Cooper
- Voices from Care - Chloe Giles
- Youth Cymru - Levi Rees
- Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili - Luke Parker
- Barnardo's Cymru - Abby O'Sullivan
- NYAS Cymru - Carys Thomas