拢900,000 tuag at adnewyddu'r Hen Goleg yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n cyfrannu 拢900,000 tuag at adnewyddu rhan o adeilad yr Hen Goleg yn Aberystwyth.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford y byddai'r grant yn mynd tuag at greu unedau busnes yn Adeilad Seddon.
Prifysgol Aberystwyth fydd yn gyfrifol am yr unedau, gyda'r bwriad o gynnig safleoedd busnes fforddiadwy i raddedigion entrepreneuraidd.
Llynedd fe wnaeth Prifysgol Aberystwyth gyhoeddi y byddan nhw'n derbyn 拢10m o arian loteri tuag at eu cynlluniau i ailwampio'r adeilad hanesyddol.
'Swyddi o ansawdd'
Wrth gyhoeddi'r cyllid o 拢900,000, sydd yn dod o gronfa Ewropeaidd, dywedodd Mr Drakeford y byddai'n "arwain at swyddi, cynnyrch a gwasanaethau newydd".
Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae adfywio economaidd yn elfen allweddol o'r cynlluniau i ailddatblygu'r Hen Goleg.
"Bydd yr unedau busnes newydd yn Adeilad Seddon yn sicrhau bod mwy o swyddi o ansawdd uchel yn cael eu creu a bod rhagor o gynnyrch arloesol yn dod i'r wyneb, ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru am eu cefnogaeth werthfawr."
Bydd y cynlluniau ar gyfer adnewyddu'r Hen Goleg - sef safle gwreiddiol Prifysgol Aberystwyth pan sefydlwyd yn 1872 - yn cael eu datgelu yn swyddogol mewn derbyniad nos Fawrth nesaf.
Fis diwethaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud nad oedden nhw'n fodlon ymrwymo 拢1m tuag at sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd26 Awst 2016
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2018