Cyfarfod i drafod dyfodol swyddfa gwaith dur Shotton
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Lun i drafod ailagor swyddfa gwaith dur Shotton fel adnodd i'r gymuned.
Mae'r adeilad sydd 芒 chloc ar ei d诺r wedi'i gofrestru fel adeilad Gradd II ac yn ddiweddar mae wedi cael ei dargedu gan fandaliaid.
Cafodd ei adeiladu yn 1907 pan gafodd y gwaith dur yng Nglannau Dyfrdwy ei ehangu - gwaith a oedd ar un adeg yn cyflogi 10,000.
Mae'r adeilad wedi newid dwylo bedair gwaith.
Bellach mae gr诺p lleol - Sefydliad Enbarr - yn ceisio cael cefnogaeth i'w agor fel adnodd cymunedol.
Ym mis Medi, dywedodd y Gymdeithas Fictoraidd eu bod yn poeni am yr adeilad, gan ei gynnwys ar restr o ddeg adeilad sydd mewn peryg.
Dywedodd cyfarwyddwr y Gymdeithas, Christopher Costelloe y dylai'r "adeilad Edwardaidd godidog fod yn arddangos gorffennol diwydiannol Shotton - ond nid yw'n cael ei ddefnyddio a bob dydd mae 'na risg o fandaliaeth neu bod rhywun yn dwyn ohono."
Yn 2010 fe dalodd cwmni datblygu Pochin 拢5m am 200 erw o dir a oedd yn berchen i Waith Shotton gan gynnwys y swyddfa gyffredinol ac adeiladau eraill.
Yn 2014 fe gawson nhw s锚l bendith i ddatblygu'r safle ar gyfer dibenion busnes, manwerthu a hamdden a'r bwriad oedd codi parc technoleg o gwmpas y swyddfa gyffredinol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd28 Medi 2015