Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
ASau Ceidwadol am weld newidiadau i'r cytundeb Brexit
Mae nifer o Geidwadwyr Cymreig wedi galw am newid cytundeb Brexit Theresa May ar 么l i fwy na thraean o ASau Ceidwadol bleidleisio yn ei herbyn mewn pleidlais diffyg hyder.
Fe enillodd Mrs May y bleidlais ar 么l sicrhau cefnogaeth 200 o'i chyd-aelodau, ond fe ddywedodd 117 nad oedd ganddyn nhw hyder ynddi.
Dywedodd y cyn-weinidog Brexit, David Jones, ei fod yn "ganlyniad anodd" i'r Prif Weinidog.
Ond, roedd Simon Hart AS o'r farn ei fod yn ganlyniad da, ac yn galw ar wrthwynebwyr Ms May i helpu'r llywodraeth.
Mae Mark Drakeford wedi ymateb i'r newyddion drwy alw ar Mrs May i ymestyn cyfnod Erthygl 50 ar adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn 么l Prif Weinidog newydd Cymru, does ganddi ddim "hygrededd" nac "awdurdod" bellach.
Dywedodd AS Sir Drefaldwyn, Glyn Davies - oedd wedi datgan ei gefnogaeth i Mrs May - ei fod wedi disgwyl "pleidlais agos" a'i fod yn synnu bod cyn lleied o aelodau wedi ei gwrthwynebu.
Ychwanegodd y byddai wedi bod yn fodlon petai Mrs May wedi ennill o un bleidlais "ond mae'n her iddi hi ac mae'n her i'r blaid".
Tra'n croesawu'r canlyniad, dywedodd AS Ceidwadol Mynwy, David TC Davies ei fod yn "anodd dweud" os ydy'r bleidlais wedi niweidio ei harweinyddiaeth.
"Dwi'n gobeithio y bydd hi'n glir iawn os nad yw pobl yn fodlon derbyn y cyfaddawd o Frexit y mae hi'n ei gynnig yna mae'n rhaid symud tuag at y Brexit llawn wnaeth bobl bleidleisio drosto," meddai.
Yn 么l arweinydd gr诺p Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts does "dim byd yn mynd i newid" o ran trafferthion Mrs May wrth geisio pasio ei chytundeb Brexit yn y Senedd.
Mae hi hefyd yn teimlo y bydd refferendwm arall ar Brexit yn "fwy tebygol" yn sgil pleidlais nos Fercher.
"Gadewch i ni gymryd cam yn 么l... mae pobl eisiau newid, rhywbeth i ddigwydd," meddai. "Beth ni wedi cael nawr yw g锚m ar yr ochr gan y Blaid Geidwadol ar yr adeg bod angen rhywbeth i newid."
'Lles y wlad yn gyntaf'
Daeth y bleidlais ar 么l i gadeirydd pwyllgor 1922, Syr Graham Brady ddweud ben bore Mercher fod y trothwy o 15% o'r blaid seneddol ar gyfer pleidlais wedi ei gyrraedd.
Roedd Mrs May wedi dweud y byddai'n herio'r bleidlais "gyda fy holl nerth".
Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns wedi cyhoeddi ei gefnogaeth i Mrs May ar ei gyfrif Twitter.
Ysgrifennodd: "Rydw i'n rhoi fy nghefnogaeth lwyr i Theresa May sydd wastad wedi rhoi blaenoriaeth y genedl yn gyntaf.
"Mae'n rhaid parchu canlyniad y refferendwm a chefnogi'r Prif Weinidog i gyflawni Brexit."
Ar y Post Prynhawn, ychwanegodd ei fod yn meddwl bod rhai Ceidwadwyr yn rhoi "uchelgais bersonol o flaen uchelgais y wlad".
Roedd Aelod Seneddol Preseli Penfro, Stephen Crabb hefyd wedi datgan ei gefnogaeth gan ddweud: "Nid dyma yw'r amser i'r blaid Geidwadol ddifa'i hun."
Ar Twitter hefyd dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies: "Datganiad gwych gan Theresa May.
"Mae ganddi fy nghefnogaeth lawn gan ei bod yn rhywun sydd yn amlwg yn rhoi lles y wlad yn gyntaf."
Wedi'r bleidlais fe gyhoeddodd ar Twitter bod hi'n "wych" i weld canlyniad "llethol" o blaid Mrs May a bod hi'n "bryd i gefnogi ein Prif Weinidog".
'Rhaid iddi wrando'
Ond nid pawb o'r aelodau Cymreig oedd yn cytuno. Dywedodd David Jones wrth y 大象传媒 na fyddai "yn gallu cefnogi Theresa May".
Yn 么l AS Gorllewin Clwyd: "Fy mhrif bryder yw sicrhau fod Brexit yn llwyddiant i Brydain.
"Dydw i ddim yn meddwl fod hynny'n bosib o dan arweinyddiaeth hi. Mae hyn yn siom i mi.
"Fi oedd un o'r cyntaf i ddatgan fy nghefnogaeth iddi yn y dechrau ac felly mae hi wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i mi beidio 芒'i chefnogi hi r诺an."
Dywedodd nos Fercher bod canlyniad y bleidlais yn un "anodd" i Mrs May.
"Mae dros draean o'r blaid seneddol wedi colli hyder ynddi," meddai. "Rhaid iddi wrando nawr ar bryderon cydweithwyr a sicrhau newid i gynnwys y cytundeb ymadael, neu fel arall ni fydd yn cael ei wireddu."
'Cyfnod tyngedfennol'
Roedd angen i 48 o Aelodau Seneddol Ceidwadol gyflwyno llythyr i'r pwyllgor er mwyn sbarduno pleidlais o'r fath.
Mewn araith y tu allan i Downing Street fore Mercher dywedodd Mrs May: "Rwyf wedi derbyn y cadarnhad fod Syr Graham Brady wedi derbyn 48 llythyr i fy nisodli. Byddaf yn herio'r bleidlais gyda fy holl nerth.
"Rwyf wedi bod yn aelod o'r blaid Geidwadol ers dros 40 o flynyddoedd. Penderfynais sefyll fel arweinydd gan gredu yn y weledigaeth geidwadol am ddyfodol gwell.
"Yn y cyfnod tyngedfennol yn ein hanes mae hyn yn cynnwys sicrhau'r cytundeb Brexit hwn.
"Rwyf wedi cynnig fy hun yn ddiamod i'r tasgau hyn ers dod yn Brif Weinidog a dwi'n barod i orffen y dasg."
Mae Mrs May wedi bod yn brif weinidog ers ychydig wedi'r refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.