Y bardd sy'n dysgu Cymraeg, diolch i Katie Hopkins
- Cyhoeddwyd
Fis Medi 2018 cafodd y bardd a'r dramodydd Patrick Jones ei sbarduno i wneud rhywbeth na fyddai wedi croesi ei feddwl pan oedd yn llanc ifanc yn y Cymoedd, a hynny diolch i Katie Hopkins.
Penderfynodd ddechrau dysgu Cymraeg yn sgil ymweliad y bersonoliaeth deledu â Chymru i greu stŵr am yr iaith a gwneud sylwadau'n lladd arni.
Postiodd Patrick Jones wedi ei hanelu at Hopkins yn dweud "... your call out was the push i needed to sign up for my first welsh course with coleg gwent- it is time- 53 years in the making- i cannot wait and it is all down to you..."
Yn 53 oed, teimlai "ei bod hi'n amser" mynd i'r afael â'r iaith ar ôl blynyddoedd o deimlo "euogrwydd" nad oedd yn gallu ei siarad, meddai.
"Hi oedd y catalydd mewn ffordd, ond roedd hefyd yn brotest fach," meddai wrth Cymru Fyw.
"Roedd yn gyfres o bethau bach: negeseuon Twitter a phobl yn sôn o hyd am pam ein bod ni'n trafferthu cael arwyddion Cymraeg a phethau tebyg, roedd wir yn fy ngwylltio.
"Ro'n i'n meddwl 'sut meiddian nhw ddod yma a dweud wrthon ni sut dylai'n harwyddion ni fod?'"
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd yna resymau mwy personol hefyd.
"Mae wedi bod yn gyfnod anodd," meddai Patrick, sy'n dad i dri o fechgyn ac yn byw yn y Coed Duon, lle cafodd ei fagu.
"Roeddwn i wedi bod drwy ysgariad, collais fy mam rai misoedd yn ôl ac mae fy mhlant yn tyfu yn sydyn ac ro'n i'n meddwl beth ydw i wir eisiau ei gyflawni eto yn fy mywyd? Dwi'n chwilio am lwybr newydd efallai.
"Mae'n swnio ychydig yn ddosbarth canol ond roeddwn i bron yn ceisio darganfod fy hun, adennill fy mywyd."
'Ofn' ac 'euogrwydd'
Mae angerdd Patrick Jones tuag at hanes Cymru, y gymuned ddiwydiannol y cafodd ei magu ynddi a'i synnwyr o anghyfiawnder cymdeithasol wastad wedi bod yn amlwg yn ei waith fel bardd a dramodydd.
Rhoddodd ei ddrama gyntaf, Everything Must Go, ei henw i albwm band enwog ei frawd, Nicky Wire, y Manic Street Preachers.
Mae'n gyfarwydd iawn â chynnal sesiynau yn y gymuned a pherfformio ei waith.
Ond mae'n dweud fod dysgu Cymraeg yn rhywbeth oedd yn codi ofn arno.
"Dwi wedi teimlo'n ofnus iawn am y peth dros y blynyddoedd ac yn cario llawer o euogrwydd hefyd - yn methu â siarad Cymraeg ond yn ysgrifennu fel Cymro," meddai Patrick sydd newydd ei benodi'n artist preswyl i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru.
"Mae'r euogrwydd yna wastad wedi bod gen i.
"Ond roedd y Gymraeg yn iaith ddieithr iawn inni yn cael ein magu yn y saithdegau yn y Cymoedd: doedd dim ysgolion Cymraeg o gwmpas, doeddwn i ddim yn adnabod neb oedd yn siarad Cymraeg, ddim yn cael gwersi Cymraeg yn yr ysgol a dim llawer o addysg am hanes Cymru chwaith.
"Doedd yr iaith ddim yn ein fframwaith diwylliannol ni ac mae hynny'n eich gwneud ychydig yn ofnus a meddwl nad ydych chi'n perthyn i rywle, mewn ffordd ryfedd."
Gwylio bandiau Cymraeg ar Sêr
Er nad oedd y Gymraeg yn rhan o'i fywyd o gwbl roedd yn cael cip ohoni bob hyn a hyn.
Mae'n cofio gwylio'r rhaglen Sêr ar HTV ar ôl yr ysgol yn y 1980au gyda'i frawd, Nicky, a gweld bandiau fel Yr Anhrefn a Geraint Jarman ar y teledu.
"Roedd Nick a fi wrth ein boddau'n ei gwylio - doedd dim llawer o raglenni cerddoriaeth o gwbl bryd hynny.
"Doedden ni ddim yn ei ddeall, ond roedden ni wrth ein boddau gyda'r gitârs a'r synau."
Ar wyliau yn y gorllewin, mae'n cofio clywed pobl yn siarad Cymraeg yn y siop a theimlo'n anesmwyth am nad oedd yn deall yr iaith ddieithr.
Cafodd yr un teimlad pan aeth i ogledd Cymru am y tro cyntaf ar wyliau gyda'i blant a'i gyn-wraig.
"Roedden ni'n arfer mynd 10-15 mlynedd yn ôl pan oedd y plant yn fach a syrthiais mewn cariad â'r lle," meddai.
"Ond ro'n i wastad yn teimlo'n euog, yn genfigennus efallai hyd yn oed, yn meddwl mod i wrth fy modd gyda sŵn pobl yn siarad Cymraeg ond eto, roedd yn swnio'n ddieithr i mi."
"Felly, fe wnaeth yr holl 'triggers' bach yma wneud i mi feddwl, 'reit, stopia wastraffu amser a cheisia wneud rhywbeth am y peth'."
Mae'n ddyddiau cynnar eto meddai, ac mae'n nerfus am ei siarad ond yn ffoli ar sŵn ac ystyr geiriau ar y funud.
Rhai o'i hoff eiriau ar hyn o bryd, oherwydd eu sŵn a'u teimlad, ydy 'twmffat', 'hydref', 'tystion' ac 'ofnadwy'.
"I chi maen nhw'n eiriau syml, ond i mi maen nhw fel agor drws i fyd newydd!"
Mae edrych ar enwau llefydd "fel proses o ddad-gôdio," meddai, "fel y gair Llan, sy'n golygu 'plwy' eglwys' - mae bron fel agor y drws i Narnia yn The Lion, The Witch and the Wardrobe, ac yn sydyn, rydych chi yn y byd newydd yma."
Ymarfer Cymraeg gyda James Dean Bradfield
"Dwi ddim yn rhannu llawer ar y funud, dim ond gyda fy ffrind James Bradfield o'r Manics, mae'n dda iawn er na fyddai'n cyfaddef hynny, ac wedi bod yn dysgu ei hun.
"Dwi wrth fy modd yn gwrando arno'n siarad. Ond fe yw'r unig berson dwi'n teimlo'n ddigon hyderus i siarad ag e a rhoi cynnig ar eiriau ar hyn o bryd."
Mae agweddau wedi newid tuag at yr iaith, meddai Patrick.
"Yn y 70au a'r 80au roedd yn teimlo fel pe bai 'na ychydig mwy o raniad rhwng siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg, a nawr dwi'n teimlo bod yna bont hyfryd, fel yn yr Eisteddfod eleni... dwi'n teimlo ei bod hi'n amser bendigedig i ddysgu Cymraeg nawr, ac edrych yn ddyfnach i'n hetifeddiaeth ieithyddol.
"Oherwydd dwi'n caru hanes Cymru a'r cyfan mae hynny'n ei roi i ni fel cenedl a dwi'n credu efallai mod i wedi esgeuluso'r iaith yn fy mywyd fy hun."
Dywed Patrick ei fod yn teimlo'n "saffach" yn ceisio dysgu Cymraeg rŵan ond roedd ganddo'n dal "lais bach yn ei ben" oedd yn gwneud iddo deimlo y byddai pobl yn meddwl bod ei ymgais i wneud hynny'n "chwerthinllyd".
"Ond beth wnes i ei ffeindio ar Twitter oedd fod 'na gynhesrwydd go iawn ymysg siaradwyr Cymraeg oedd yn dweud 'ie, rho gynnig arni' ac mae'r pethau bach yna'n helpu i fagu hyder.
"Mae'n ddyddiau cynnar, ond mae'n teimlo fel pe bai gen i dirwedd newydd enfawr a hardd i'w archwilio."
Hefyd o ddiddordeb: