大象传媒

Trafod adeiladu Ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Y Barri

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymraeg Sant BarucFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai'r cynllun yn gweld Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn symud i adeilad newydd

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi ei fwriad i adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gwerth 拢7.4m yn y Barri.

Os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo, bydd Ysgol Sant Baruc - sydd 芒 lle i 210 o blant ar hyn o bryd - yn symud i adeilad newydd gyda lle i ddwbl y nifer yna.

Byddai'r ysgol newydd 芒 digon o le ar gyfer 420 o ddisgyblion, yn ogystal 芒 96 o lefydd mewn dosbarthiadau meithrin.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, John Thomas: "Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu mewn poblogrwydd ac wedi gweld twf sylweddol ers i ysgol Gymraeg Bro Morgannwg agor yn 2000.

"Mae angen i'r Cyngor gynllunio ei ddarpariaeth ysgol yn unol 芒 hyn.

Yn 么l datganiad y cyngor, mae'r galw am addysg ddwyieithog yn y Barri wedi cynyddu mwy na chwarter yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Mae'r cyngor yn rhagweld y bydd y galw hwn yn datblygu ymhellach, wrth i'r strategaeth i hyrwyddo addysg ddwyieithog yn unol ag agenda 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru ddatblygu.

Ychwanegodd Mr Thomas: "Bydd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar y Glannau yn dileu'r angen i lawer o ddisgyblion a rhieni deithio ar draws y dref i'r ysgol bob dydd.

"Yn ogystal ag ailfodelu dalgylchoedd ysgolion mewn mannau eraill yn y Barri, bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn lleoedd mewn ysgolion eraill."

'Elfen allweddol'

Mae sefydlu ysgol gynradd newydd ar y Glannau'n debygol o arwain at newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion cynradd y Stryd Fawr, Holltwn ac Ysgol Sant Baruc.

Os bydd y cabinet yn cytuno ar argymhellion yr adroddiad ar 17 Rhagfyr, bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn parhau rhwng 8 Ionawr 2019 a 22 Chwefror 2019.

Dywedodd Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: "Mae'r ysgol newydd ar y Glannau yn elfen allweddol o raglen 'Band B' gwerth 拢143m y Cyngor, sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i godi nifer o ysgolion newydd ac ysgolion wedi'u hailfodelu ym Mro Morgannwg.

"Mae'r Cyngor yn falch o fod 芒 rhaglen mor uchelgeisiol, sy'n cynnig darparu ysgolion newydd 21ain ganrif ledled Bro Morgannwg, gan gynnwys cymunedau'r Bont-faen, Colwinston, y Rhws, Sain Nicolas a Phenarth. Mae hyn yn rhoi tystiolaeth gadarn o ymrwymiad y Cyngor i ddysgu disgyblion yn y dyfodol."