Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfnod ymgynghori ar ddiddymu Cemeg Prifysgol Bangor
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi eu bod ar fin dechrau cyfnod ymgynghorol ar gyfer diddymu gradd anrhydedd sengl mewn Cemeg.
Yn 么l y brifysgol mae "nifer o ffactorau" wedi arwain at yr ymgynghoriad.
Dim ond ym Mangor mae modd astudio canran o'r cwrs cemeg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Nid oes cyfnod pendant wedi ei nodi ar gyfer yr ymgynghoriad.
Yn 么l datganiad gan Brifysgol Bangor mae'r brifysgol, "fel nifer o brifysgolion arall yn wynebu sefyllfa ariannol heriol, cystadleuaeth ddwys ym Mhrydain ac yn rhyngwladol a lleihad demograffig sylweddol yn y boblogaeth 18-20 oed".
'Sefyllfa ariannol heriol'
Dywedodd llefarydd: "Er mwyn sicrhau iechyd ariannol hirdymor y sefydliad, mae Cyngor Prifysgol Bangor wedi cymeradwyo nifer o achosion busnes ar gyfer ymgynghori.
"Mae achos busnes ar gyfer diddymu gradd anrhydedd sengl mewn Cemeg ym Mhrifysgol Bangor yn un o'r cynlluniau sy'n destun ymgynghoriad".
Tra bod y brifysgol yn pwysleisio bydd myfyrwyr presennol yn "gallu graddio gyda'r radd y maent wedi cofrestru ar ei chyfer ar hyn o bryd", mae rhai wedi mynegi pryder.
Dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor Gethin Morgan: "Y pryder mwyaf o golli'r adran Gemeg ym Mhrifysgol Bangor yw mai dyma'r unig adran yng Nghymru sydd yn cynnig yr opsiwn i fyfyrwyr fedru astudio rhan o'u gradd BSc Cemeg drwy gyfrwng y Gymraeg."
Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd yr Athro Emeritws a'r cyn-ddarlithydd Biocemeg, Deri Tomos fod yr "adran wedi ei chreu ar gyfer myfyrwyr Cymru oedd eisiau astudio yng Nghymru.
"Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi buddsoddi lot fawr o bres i sicrhau darpariaeth Cymraeg. Os bydd yr adran yn cael ei ddiddymu fe fydd yn wastraff ofnadwy."
Ni fydd penderfyniad terfynol am y radd tan ddiwedd y cyfnod ymgynghorol.