Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prifysgol Abertawe yn anrhydeddu'r diddanwr Dewi Pws
Mae'r canwr a'r actor Dewi Pws Morris wedi derbyn gradd anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.
Cafodd ei wneud yn ddoethur mewn ll锚n er anrhydedd yn seremoni raddio'r brifysgol ddydd Mawrth.
Yn enedigol o bentref Treboeth ger Abertawe, cafodd ei enwi'n Dewi Gray Morris.
Er iddo gymhwyso fel athro, a dysgu'n ardal Sblot yng Nghaerdydd am rai blynyddoedd, fe wnaeth enw iddo'i hun yn y byd adloniant.
"Mae'n hyfryd i ddychwelyd i'r ddinas lle ges i fy ngeni i dderbyn yr anrhydedd hollol annisgwyl hon - a 'sdim rhaid i fi ddysgu sgript!" meddai.
"Yma yn Abertawe ges i fy addysg gynnar lle ddysgais fod Cymru a'r iaith Gymraeg yn bwysig i mi, a hefyd sut i adeiladu cestyll tywod gore'r byd."
Bu'n actio mewn nifer o gynyrchiadau gan gynnwys cyfresi sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, yn ogystal 芒'r ffilm deledu eiconig Grand Slam ym 1978.
Roedd yn aelod o'r gr诺p Tebot Piws, ac yn ddiweddarach, ymunodd 芒'r band roc chwyldroadol, Edward H Dafis.
Yn fardd hefyd, cafodd ei enwi yn Fardd Plant Cymru yn 2010.