Cyhoeddi t卯m hyfforddi newydd t卯m rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr nesaf t卯m rygbi Cymru, Wayne Pivac, wedi cyhoeddi gweddill ei d卯m hyfforddi.
Cafodd Pivac, sy'n hyfforddi'r Scarlets ar hyn o bryd, ei enwi fel olynydd Warren Gatland ym mis Gorffennaf.
Bydd dau Gymro yn ymuno ag ef, gyda Stephen Jones yn cael ei benodi fel hyfforddwr yr ymosod a chyn-gapten Cymru, Jonathan Humphreys, fel hyfforddwr y blaenwyr.
Fe gadarnhaodd Gatland ym mis Tachwedd ei fod yn bwriadu gadael ei r么l fel prif hyfforddwr yn dilyn Cwpan y Byd 2019.
Mae Shaun Edwards eisoes wedi ei benodi fel prif hyfforddwr nesaf y t卯m rygbi'r gynghrair, Wigan Warriors, tra bod disgwyl i Rob Howley a Robin McBryde ymuno 芒 Gatland yn ei swydd nesaf. Does dim cadarnhad pwy fydd yn cymryd lle Shaun Edwards hyd yma.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Bydd Neil Jenkins yn parhau yn ei r么l fel hyfforddwr sgiliau gan ei fod wedi arwyddo cytundeb parhaol gydag Undeb Rygbi Cymru.
Mae gan Jones gytundeb gyda'r Scarlets tan ddiwedd tymor 2019-20, ac nid oes sicrwydd eto os fydd rhaid talu rhywfaint o iawndal i'r rhanbarth.
Cafodd Brad Mooar ei gadarnhau fel olynydd Wayne Pivac fel prif hyfforddwr y Scarlets ar ddechrau'r mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018