Dawel Nos?! Nadolig... gyda naw o blant

Disgrifiad o'r llun, Jen, Rob a gweddill y teulu

Os ydi'r Nadolig weithiau'n teimlo'n rhy gostus a phrysur dychmygwch sut mae pethau yn nh欧 Jen Hall - mam i naw o blant.

Mae cymaint o waith paratoi i'w wneud cyn y diwrnod mawr mae'n achosi hunllefau i Jen - mam Elliw, Robert, Keith, Jac, Dylan, Alfie, Poppy, Jasmine a George, sydd i gyd rhwng 17 mlwydd a 18 mis oed.

"Dwi'n joio'r diwrnod ei hun ond cas谩u'r amser cyn y 'Dolig," meddai Jen. "Dwi'n cael breuddwydion mod i'n deffro bore 'Dolig a dim presanta i'r plant.

"Maen nhw i gyd yn deffro ac wedi gwirioni ei bod hi'n 'Ddolig - a does 'na ddim presanta. Mae'n horrible."

Ac oherwydd diffyg lle yn y t欧 maen nhw'n byw ynddo ger Llanrug, Gwynedd, mae hi'n creu ambell reol i wneud yn si诺r nad ydi pethau'n mynd dros ben llestri.

Rheolau i gadw trefn

"Dwi'n osgoi'r decoratio tan mor hwyr a galla' i achos does 'na'm lle yn y living room," meddai.

"Fyddwn ni'n rhoi'r pethau i fyny penwythnos cyn 'Dolig, a'u tynnu nhw lawr Boxing Day. Faswn i'n licio roi nhw fyny noson cyn 'Dolig, ond dwi'm yn cael blwyddyn yma.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Fydd y goeden ddim yn cael ei gosod tan y funud olaf oherwydd diffyg lle

"Does jest ddim lle yn y living room felly mae'n rhaid clirio. Mae'n fater o dynnu bocsys toys o' 'na a rhoi nhw yn y llofft ac ella rhoi rhai yn y garaf谩n yn yr ardd jest am y 'Dolig.

"Dwi ddim yn gwybod lle i roi'r goeden achos mae bob congl yn llawn.

"Dwi hefyd yn gofyn i deulu a ffrindiau i beidio rhoi presantau i'r plant tan y munud olaf os yn bosib achos does 'na ddim lle.

"Mae'n chwaer i wedi deud os dwi'n cael plentyn arall, o siop bunt fydd eu presanta nhw'n dod."

Sioeau Nadolig

I unrhyw un sydd 芒 phlant, mae'r wythnosau cyn i'r ysgol gau am yr 诺yl yn gyfnod prysur oherwydd sioeau Nadolig.

Eleni roedd gan Jen chwech i fynd iddyn nhw ond yn rhannu'r dyletswyddau gyda ffrind sydd efo plant yr un oed.

Ac os ydi bore'r Nadolig yn brysur acw - mae'n si诺r o fod yn brysurach yn nh欧 Jen a'i theulu.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu

Disgrifiad o'r llun, Yr ystafell fyw bore Nadolig llynedd...

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, ... a'r gegin

"Mae'n rhemp, chaos. Mae'n ddiawledig.

"Nes i roi llun i fyny ar Facebook blwyddyn diwethaf o'r plant i gyd diwrnod 'Dolig ac roedd pobol yn dweud 'lle mae'r plant' - doedden nhw methu gweld nhw oherwydd y papur lapio a'r presanta'.

"Mae pawb isio agor bob dim, bob un presant maen nhw'n gweld. Fydda i'n mynd rownd yn trio cadw golwg ar bob dim ac yn edrych fel dynes wyllt drwy'r bore."

Pawb yn bwyta gyda'i gilydd

Un peth tydi Jen ddim yn gorfod ei wneud ar Ragfyr 25 ydi coginio - yr unig ddiwrnod o'r flwyddyn pan nad ydi hi'n gwneud y bwyd, gan bod ei g诺r yn gweithio.

Ond Rob sy'n gwneud ar ddydd Nadolig - ac mae'n esgus i gael PAWB i fwyta gyda'i gilydd.

Meddai Jen: "Dim ond diwrnod 'Dolig neu os ydan ni'n mynd allan am fwyd mae hynny'n digwydd - ac mae'n braf.

"Fel arfer dwi'n gwneud bwyd i'r plant bach gyntaf, wedyn y plant mawr - ac wedyn ni.

"Mae pawb yn y gegin fel arfer efo'i gilydd achos mae 'na giw o blant yn disgwyl am fwyd - ond diwrnod 'Dolig mae pawb yn bwyta efo'i gilydd.

"Blwyddyn diwetha' roedd y plant bach rownd bwrdd bach plastig a phawb arall rownd y breakfast bar."

Erbyn tua 10 o'r gloch nos, mae'r prysurdeb mawr drosodd - a Jen a'i g诺r yn gallu eistedd lawr am ychydig.

Ond does dim llawer o amser i ymlacio na chael seibiant o brysurdeb a chostau.

Mae pedwar o'r plant yn cael eu penblwyddi mis Ionawr.