Ehangu cynllun beicio i bobl anabl yng Nghaerdydd

Disgrifiad o'r llun, Erbyn haf 2019 bydd 1,000 o feiciau ar draw y ddinas.
  • Awdur, Sian Elin Dafydd
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Wrth i gynllun llogi beiciau ehangu yng Nghaerdydd mae'r cwmni sy'n gyfrifol amdano yn dweud y bydd yn gwella'r ddarpariaeth i bobl sydd ag anableddau.

Yn 么l nextbike bydd beiciau wedi'u haddasu'n arbennig yn cael eu cyflwyno i'w casgliad o feiciau traddodiadol, a Chaerdydd fydd y ddinas gyntaf ym Mhrydain i wneud hynny.

Erbyn haf 2019 bydd 1,000 o feiciau wedi eu lleoli ar draws y ddinas gan ddyblu'r nifer sydd eisoes ar y strydoedd.

Ond er bod y cynllun yn boblogaidd mae'r cyngor yn cyfaddef bod angen creu adeiladwaith o lwybrau newydd pwrpasol.

Yn ogystal 芒'r cerbydau, bydd 65 o orsafoedd yn cael ei hychwanegu i'r rhwydwaith presennol a bydd hyd at 10 o swyddi'n cael eu creu i wasanaethu'r beiciau ychwanegol.

Yr elusen feicio Pedal Power sy'n gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw ac ail-ddosbarthu'r beiciau nextbike.

Mae Pedal Power yn rhoi cyfleodd i filoedd o blant a phobl anabl fwynhau seiclo ac yn gyson mae plant o Fryste a Llundain yn teithio yno i gael gwersi.

Disgrifiad o'r llun, Mae Nansi 6 oed yn byw gydag awtistiaeth yn dysgu beicio

Robyn Gruffydd Hughes yw Swyddog Plant a Phobl ifanc yr elusen, dywedodd bod gwaith Pedal Power yn unigryw ac nad oedd y gwasanaeth yr oedden nhw'n ei gynnig ar gael drwy Gymru a gweddill Prydain

"Does neb yn gwneud y math o waith da ni'n gwneud efo plant 芒 cerebal palsy, ma gyda ni blant sy'n dod yn bell, bell dim ond i gael cwpwl o wersi."

Ychwanegodd bod beicio yn llesol i bobl anabl am sawl rheswm gan gynnwys annibyniaeth a hyder.

Disgrifiad o'r fideo, 'Trawsnewid beicio yng Nghaerdydd'

Un sy'n gyson ar gefn ei feic yw arweinydd cyngor Caerdydd, Huw Thomas a dywedodd bod ganddyn nhw gynlluniau i greu rhwydweithiau o lonydd pwrpasol i feicwyr yn unig.

Ond ychwanegodd bod angen cyllid sylweddol i ehangu'r cynllun ymhellach.

"'Dan ni'n derbyn bo' ni angen buddsoddiad, 'dan ni wedi neilltuo 拢6m o'n harian cyfalaf ein hunan i'r prosiect yma," meddai.

"Mae hyn yn mynd i drawsnewid y cyfle i feicio yng Nghaerdydd - ein dadl ni i'r llywodraeth yw dewch mewn gyda ni, matchwch ein cyfraniad ni. Bydd hyn yn caniat谩u i ni ehangu'r rhwydwaith ymhellach i gymunedau ar berifferi Caerdydd ac o bosib yn ehangach na hynny fyth.

"Byddai'n caniat谩u i mwy a mwy o bobl gymudo i'r gwaith ar y beic, sy'n tynnu traffig oddi ar ein strydoedd ni ac mae hynny'n bwysig o ran hygrededd ac o ran safon yr awyr mae pobol Caerdydd yn ei anadlu."

Yn ogystal ag ehangu nifer y beiciau, dywedodd pennaeth nextbike ym Mhrydain, Julian Scriven, y byddai'n cyflwyno cynllun newydd Beiciau i Bawb.