Geraint Thomas ymysg y Cymry ar restr anrhydeddau'r Frenhines
- Cyhoeddwyd
Mae'r seiclwr Geraint Thomas ymhlith y Cymry sydd ar restr anrhydeddau'r Frenhines eleni.
Mae nifer yn cael eu hanrhydeddu am eu cyfraniad i'w cymunedau, i elusennau, i fyd iechyd, i gerddoriaeth ac i'r byd chwaraeon.
Ymhlith y rhai sy'n cael eu hurddo'n farchog, mae'r awdur Philip Pullman - a dreuliodd tipyn o'i blentyndod yng Nghymru - a chyn-Ysgrifennydd Cymru, John Redwood.
Dywedodd Mr Pullman ei fod yn "falch iawn" am "nad yw anrhydeddau yn cael eu rhoi i awduron yn aml".
Derbyniodd Geraint Thomas MBE yn 2008 am ei lwyddiant yng ngemau Olympaidd Beijing, a dywedodd bod yr anrhydedd ddiweddaraf - yr OBE - yn "eisin ar dop y gacen" wedi iddo ennill y Tour de France eleni.
Mae canwr y band The Alarm, Mike Peters, sy'n wreiddiol o Brestatyn, yn derbyn MBE am ei waith yn codi arian i wella gofal a chefnogi cleifion 芒 chanser.
Sefydlodd yr elusen Love, Hope, Strength yn 2007 ac mae wedi brwydro yn erbyn canser deirgwaith yn ystod ei fywyd.
Dywedodd Peters ei fod wedi cael "sioc" o gael ei wahodd i dderbyn yr anrhydedd ac ychwanegodd ei fod "i bawb" sydd wedi ymuno gydag ef i godi arian.
"Gobeithio [bydd yr MBE] yn codi proffil be rydym yn ei wneud hyd yn oed yn fwy," meddai.
Mae sylfaenwyr cwmni Halen M么n, Alison a David Lea-Wilson, hefyd yn derbyn MBE yr un.
Mae Melanie Davies, sy'n brif nyrs yn Ysbyty Treforys, yn cael ei hanrhydeddu gydag MBE am ei gwaith arbennig yn cynorthwyo cleifion ag anghenion dysgu.
Dywedodd ei bod yn "ddiolchgar iawn" i gael cydnabyddiaeth am ei gwaith.
Pwy arall sy'n cael eu hanrhydeddu?
Mae Reynette Roberts a Leon Gardiner yn derbyn anrhydeddau am eu cyfraniad i'w cymunedau lleol.
Mae Ms Roberts yn derbyn MBE am ei gwaith gwirfoddol gyda cheiswyr lloches yng Nghaerdydd a Mr Gardiner yn derbyn BEM am ei gefnogaeth i elusennau T欧 Hafan a MacMillan.
Mae nifer yn derbyn anrhydeddau i ddathlu eu gwaith gwirfoddol, ac yn eu plith mae Shaun Stocker.
Cafodd Stocker ei anafu tra'n filwr yn Afghanistan a cholli ei ddwy goes, ac roedd yn awyddus i ddefnyddio'i brofiad i helpu eraill.
Dywedodd i godi arian a helpu eraill ddatblygu'n "ffordd o fyw".
"Ar 么l i fi orffen fy nghyfnod yn gwella, dwi'n cofio meddwl beth oeddwn i am wneud hyd gweddill fy mywyd," meddai.
"Roeddwn i'n gwybod fy mod am ddefnyddio beth ddigwyddodd i fi mewn ffordd bositif."
Bydd yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, y BEM.
Mae Janice Ball hefyd yn derbyn BEM am ei gwasanaeth i gerddoriaeth - 芒 hithau'n sylfaenydd c么r Forget Me Not, sy'n elusen ar gyfer pobl gyda dementia a'i gofalwyr.
Un arall sy'n derbyn BEM yw Tomos Hughes, sydd wedi ymgyrchu i gael diffibrilwyr yn Nyffryn Clwyd.
Dywedodd Mr Hughes ei fod yn "sioc ofnadwy" a'i fod wedi bod yn "andros o job i beidio 芒 d'eud wrth neb yn y teulu".
Llwyddodd i osod 400 o beiriannau mewn cyfnod o bedair blynedd, gan weithio'n wirfoddol tan y ddiweddar.
"Nes i 'rioed feddwl 'swn i'n cael gan y Frenhines... ond mae o yn neis, cael cydnabyddiaeth am y gwaith caled sy' 'di cael ei 'neud," meddai.
Mae'r cerddor Jeffrey Howard o Bontprennau yn derbyn BEM am ei wasanaeth i gerddoriaeth.
"Rwy'n falch iawn fy mod yn derbyn y wobr hon fel Cymro yn gwneud cerddoriaeth yn y wlad fendigedig yma," meddai.
"Mae'n bleser mawr i fi fod yn rhannu fy ngherddoriaeth gyda phobl yn y gymuned."
Bachgen 13 oed a achubodd ei dad wedi iddyn nhw fynd i drafferthion yn y m么r ger arfordir M么n sy'n derbyn cymeradwyaeth o ddewrder y Frenhines.
Trodd caiac Joe Rowlands a'i dad, Paul, drosodd ger Ynys Dulais, a rhoddodd Joe driniaeth CPR i Mr Rowlands a'i gadw'n fyw tan i hofrennydd Gwylwyr y Glannau ddod i'w hachub.
Mae dau o wirfoddolwyr Cymreig yr RNLI - Graham Drinkwater o Gaergybi a Robert Harris o Bort Talbot - yn derbyn MBE gan y Frenhines.
Yn ogystal 芒 hynny, mae'r deifwyr John Volanthen a Richard Stanton, sy'n rhan o d卯m achub ogofau de a chanolbarth Cymru, yn derbyn medalau George.
Roedden nhw'n rhan o'r t卯m aeth i Wlad Thai ym mis Gorffennaf i achub 12 bachgen a'u hyfforddwr a fu'n sownd mewn ogof am dair wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2018