Lluniau: Glan m么r Cymru yn y gaeaf
- Cyhoeddwyd
Be' sy'n digwydd i ardaloedd arfordirol Cymru ar 么l i'r ymwelwyr fynd adref? Mae'r traethau'n gwagio a'r busnesau'n tawelu 芒 nifer o'r tai yn sefyll yn wag tan y Pasg, pan mae'r tymor gwyliau yn ailddechrau.
Felly sut brofiad yw byw a rhedeg busnes yno yn y 'tymor tawel'?
Dyma gipolwg unigryw mewn lluniau ar lan m么r Cymru yn y gaeaf.
Gogledd Cymru
Yn Abersoch, mae'r cytiau traeth yn wag yn y gaeaf. Roedd 39% o'r tai a werthwyd yng Ngwynedd llynedd yn dai haf neu'n dai i'w rhentu.
Mae pentref Abersoch yn dawelach yn y gaeaf, ac yn 么l Awel Lewis, perchennog cwmni Lledar o Borthmadog, "mae'n rhaid rheoli'r nifer o dai haf sydd yn ardal Eryri.
"Mae'n andwyol tu hwnt i gymunedau, busnesau ac yn enwedig yr iaith, os ydy'r bobl ifanc a theuluoedd yn gorfod symud i ffwrdd gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio prynu tai yn lleol. Mae cyfran helaeth o'r tai haf 'ma yn wag hanner y flwyddyn, ac mae hyn yn creu poblogaeth anwadal sy'n cael effaith negyddol ar yr economi leol a'r gwasanaethau sy' ar gael i'r trigolion parhaol."
Mae tipyn llai o ymwelwyr i'w gweld ar brom Llandudno yn ystod misoedd y gaeaf o'i gymharu 芒'r haf.
Mae hi'n wahanol iawn yn Llandudno yn yr haf pan fydd ymwelwyr yn dod ar drip diwrnod neu'n aros yn y gwestai mawr sy'n edrych dros y traeth.
Mae'r ci yn mwynhau'r traeth yn Rhosneigr, haf neu aeaf.
Yn 么l Dave Buckland, perchennog y siop Fun Sport yn Rhosneigr, "dw i'n meddwl fod y canran o dai haf yn uwch na 40% yn Rhosneigr.
"Tra fod hynny'n anodd i bobl leol, mae'n golygu ein bod yn ffynnu yn yr haf felly mae'n dda i'r pentref yn hynny o beth. Mae'r tymor 'prysur' wedi newid - erbyn hyn mae'n cychwyn yn y Pasg a ddim yn gorffen tan ddiwedd Hydref felly mae chwe mis solid gyda ni.
"Mae'n brysurach r诺an a llawer gwell i bawb yn y pentref."
Mae Aled Backhouse, rheolwr tafarn The Oyster Catcher yn Rhosneigr, yn dweud bod na wahaniaeth mawr i'w fusnes rhwng yr haf a'r gaeaf.
"Gyda'r Pasg a'r haf mae'r busnes yn ofnadwy o brysur am fod pobl yn dod i'r ynys. Ochr arall y geiniog, yn ystod y gaeaf a'r hydref, yw bod busnes yn gostwng yn ofnadwy oherwydd fod y tai yn wag a does neb yn dod draw i'r bwytai. Mae'n effeithio ar y busnes yn fawr iawn."
Dim ond gwylanod ar y pier ym Miwmares, M么n. Roedd 36% o'r tai a werthwyd yn Ynys M么n llynedd yn dai haf neu'n dai i'w rhentu.
Gorllewin Cymru
Cwm-yr-Eglwys, Sir Benfro. Mae Norman Thomas wedi byw yno ers 1965.
"Pedwar ohonon ni sy' 'ma dros y gaeaf, yn byw mewn tri t欧 mas o 24 o dai felly mae 21 t欧 yn wag rhan fwya' o'r gaeaf, ond am ambell i benwythnos. Mae'n unig ar sbelau.
"Fel arfer mae pobl 'ma unwaith y flwyddyn am bythefnos ond maen nhw'n rhentu'r tai hefyd. Ugain mlynedd yn 么l dechreuodd e newid."
Maes parcio gwag yng Nghwm-yr-Eglwys. Meddai Norman: "Mae'n nefoedd i fi - gath y plant eu geni 'ma, ond maen nhw gyd bant ac yn dod 'n么l pan maen nhw'n gallu. S'ym gwaith fan hyn iddyn nhw."
Arwydd parcio yng Nghwm-yr-Eglwys yn gwahardd parcio yn ystod y cyfnod prysur. Mae digon o le i barcio yno yn ystod tymor tawel y gaeaf.
Mae Llangrannog yn un o draethau poblogaidd gorllewin Cymru yn yr haf ond mae'n newid yn y gaeaf.
Mae llonyddwch i'w gael ar draeth Llangrannog allan o'r tymor gwyliau.
Y fainc yn wag a'r m么r yn arw yn Llangrannog yn y gaeaf.
Yn Nhresaith, mae'r stondin fwyd wedi cau.
Mae'r maes carafanau yma yng Ngheredigion wedi cau am y gaeaf.
Efallai o ddiddordeb: