Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Leigh Halfpenny yn gweld arbenigwr yngl欧n ag anaf i'w ben
Mae cefnwr Cymru, Leigh Halfpenny, yn gweld arbenigwr yn dilyn cyfergyd sydd wedi ei rwystro rhag chwarae ers deufis.
Nid yw Halfpenny wedi chwarae ers iddo dderbyn tacl hwyr gan ganolwr Awstralia, Samu Kerevi, ar 10 Tachwedd.
Cafodd y cefnwr ei enwi yn nh卯m y Scarlets i wynebu'r Glesion ddydd Sadwrn diwethaf, ond roedd rhaid iddo dynnu 'nol o'r garfan ar 么l dioddef o gur yn ei ben.
Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, bod Halfpenny yn "teimlo'n rhwystredig iawn".
"Rydych chi'n gallu gweld anaf i'r goes, mae'r rheini'n hawdd delio 芒 nhw, gallwch chi weld y llinell derfyn... mae hi'n anoddach deall anafiadau i'r pen," meddai.
"Mae o'n mynd i weld arbenigwr a gobeithio bydd hynny'n rhoi gwell syniad i ni o bryd fydd modd iddo ddychwelyd i'r t卯m."
Ychwanegodd na fydd yn mentro chwarae Halfpenny tan ei fod 100% yn holliach.