Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Brexit: May yn 'annhebygol iawn' o ennill y bleidlais
Mae'r Prif Weinidog Theresa May yn "debygol" o golli'r bleidlais ar ei chytundeb Brexit, yn 么l un Aelod Seneddol Cymreig.
Dyw Glyn Davies, AS Maldwyn, ddim yn credu y bydd Ms May yn gallu perswadio aelodau seneddol yn Nh欧'r Cyffredin i gefnogi'r cynllun.
Mae'r prif weinidog wedi galw ar ASau i'w chefnogi, gan ddweud mai dyma'r unig ffordd i anrhydeddu canlyniad y refferendwm yn 2016 ac i warchod yr economi.
Mae disgwyl i ASau bleidleisio ar gytundeb Ms May yr wythnos nesaf.
Bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth - os oes cytundeb mewn lle ai peidio.
Roedd pleidlais T欧'r Cyffredin wedi'i drefnu i'w gynnal ym mis Rhagfyr, ond fe wnaeth Mrs May ei ohirio ar 么l iddo ddod yn amlwg na fyddai digon o AS yn pleidleisio dros o'i phlaid.
Bydd y ddadl ar y fargen yn ailgychwyn ddydd Mercher, gyda'r disgwyl bellach i gynnal y bleidlais ar 15 Ionawr.
'Gwneud fel yr awgrymodd Corbyn'
Dywedodd Mr Davies wrth raglen Sunday Supplement 大象传媒 Radio Wales nad oedd hi'n amhosib i Ms May ennill, ond bod hynny'n "annhebygol iawn".
"Mae hi wedi bod yn gweithio'n galed iawn i geisio newid ein meddyliau, a bydd gennym ni'r bleidlais yng nghanol mis Ionawr i weld ble rydym yn mynd," meddai.
"Fy asesiad fy hun yw ei bod hi'n debygol o golli'r bleidlais honno, ac efallai y bydd hi'n dda wedyn i wneud fel yr awgrymodd [arweinydd Llafur] Jeremy Corbyn sef dychwelyd i'r UE i ofyn am newidiadau i hynny."