Disgwyl i Faletau fethu'r Chwe Gwlad ar 么l torri'i fraich

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae disgwyl i Taulupe Faletau fethu'r Chwe Gwlad wedi i wythwr Caerfaddon dorri ei fraich unwaith eto.

Wnaeth Faletau, 28, ddim chwarae dros Gymru yng nghyfres yr hydref yn dilyn anaf tebyg.

Mae disgwyl iddo fod allan am hyd at wyth wythnos, gan olygu dim ond posibiliad bychan y bydd yn dychwelyd erbyn gem olaf y Chwe Gwlad ar 16 Mawrth.

Bydd Cymru eisoes yn gorfod gwneud heb Dan Lydiate ac Aaron Shingler yn y rheng 么l ar ddechrau'r gystadleuaeth oherwydd anafiadau, tra bod Ellis Jenkins allan am weddill y tymor o leiaf.

Mae disgwyl hefyd i'r cefnwr Leigh Halfpenny fethu dechrau'r bencampwriaeth wrth iddo barhau i wella o effaith cyfergyd.

Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad eleni ar 1 Chwefror oddi cartref yn erbyn Ffrainc.