大象传媒

'Peidiwch newid eich bywyd os na fydd cytundeb Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Miles
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jeremy Miles AC yn Gwnsler Cyffredinol ac yn weinidog Brexit yn Llywodraeth Cymru

Does dim angen i bobl wneud unrhyw newid i'w bywydau o ddydd i ddydd wrth baratoi ar gyfer Brexit di-gytundeb posib, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Dywed Gweinidog Brexit Cymru, Jeremy Miles AC fod y llywodraeth ddatganoledig yn paratoi rhag ofn i'r DU adael yr UE heb gytundeb.

Dros y dyddiau nesaf, bydd gwefan yn cael ei lansio gyda chyngor a gwybodaeth i bobl am baratoadau o fewn y sector cyhoeddus.

Wrth drafod y trefniadau gyda newyddiadurwyr, dywedodd Mr Miles, sydd hefyd yn Gwnsler Cyffredinol, y dylai'r prif weinidog ofyn i'r UE am gael gohirio'r dyddiad ymadael er mwyn ceisio cael cytundeb arall gyda Brwsel.

Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar ASau i wrthod y cytundeb ac i Theresa May geisio cael Brexit llyfnach gyda chysylltiadau agosach 芒 Marchnad Sengl Ewrop.

Pan ofynnwyd a ddylai pobl lunio cynlluniau eu hunain yn eu bywydau dydd i ddydd, atebodd Mr Miles: "Na. Dydyn ni ddim yn gofyn i bobl Cymru gymryd camau gwahanol heddiw o'i gymharu 芒 ddoe.

"Mae'n rhaid deall beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ac i weithio gyda phartneriaid eraill."

Bydd y wefan newydd, Paratoi Cymru yn "disgrifio'r hyn yr ydym yn ei wneud".

Ychwanegodd Mr Miles: "I fod yn glir, ein disgwyliadau yw bydd ysbytai ac apwyntiadau meddyg teulu yn aros yr un fath, bydd meddyginiaethau'n cael eu darparu ar yr un sail 芒 nawr.

"Felly dydyn ni ddim yn awgrymu y dylai unrhyw un wneud unrhyw beth yn wahanol."