Trafod cynlluniau i ddymchwel uned Tawel Fan

Disgrifiad o'r llun, Mae Tawel Fan yn rhan o uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd

Mae'n bosib y bydd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, ward oedd yng nghanol ymchwiliad i gam-drin honedig, yn cael ei dymchwel.

Fe gafodd y ward ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, ei chau yn 2013 yn sgil honiadau o gam-drin cleifion, a bu dau ymchwiliad i'r sefyllfa.

Erbyn hyn mae'n bosib y bydd y safle yn cael ei ddymchwel fel rhan o gynllun 拢25m i ailwampio gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd.

Bwriad Ysbyty Glan Clwyd yw ailddatblygu Uned Ablett er mwyn creu wardiau "sy'n addas i bwrpas a diogel".

Dywed adroddiad gan Ian Howard, dirprwy gyfarwyddwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod yr ymchwiliadau i ward Tawel Fan wedi creu delwedd "hynod o negyddol".

Ychwanegodd: "Byddai ad-drefniad o'r uned yn rhoi cyfle real i ailadeiladu hyder ac enw da gwasanaethau seiciatryddol ar y safle.

Clywodd un o'r ddau ymchwiliad i Tawel Fan gan deuluoedd fod cleifion yn cael eu cadw fel anifeiliaid mewn s诺.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd ward Tawel Fan ei chau yn 2013

Bydd ymchwiliad arall - y trydydd un - i wasanaethau iechyd meddwl y gogledd yn dechrau yn y gwanwyn.

Bydd cynllun strategol amlinellol yn cael ei drafod gan aelodau o'r bwrdd iechyd ddydd Iau.

Pe bai nhw'n cymeradwyo, mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r prosiect.