Seiriol Dawes-Hughes: Beth sy' 'na i de?
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynhyrchydd teledu Seiriol Dawes-Hughes yn byw yng Nghaernarfon gyda'i 诺r Jamie. Mae Seiriol yn arbenigwr ar f卯ns a'i her coginio pennaf yw sut i gyflwyno b卯ns i bob pryd.
Beth sy' i de heno?
Heno, mae'r clasur 'b卯n pizza' ar y fwydlen, sef pizza parod o'r archfarchnad gyda hanner tun o f卯ns wedi'i dywallt drosto.
Pwy sy' rownd y bwrdd?
Fi a fy ng诺r, Jamie. Mae'r bwrdd yng Nghaernarfon ac yn y gegin.
Beth yw'r sialens fwyaf i ti wrth benderfynu be sy' i de?
Amser. Mae bywyd yn brysur ac mae'r awr o'r dydd rydyn ni'n eistedd i fwyta fel arfer yn penderfynu beth sy'n cael ei fwyta - boed hynny'n bryd sydyn cyn mynd i ymarfer c么r neu swper hwyr ar 么l deg o'r gloch y nos. Dydyn ni ddim yn bwyta cig, ond dydi hynny'n fawr o her gyda chymaint o ddewisiadau eraill ar gael.
Wyt ti'n coginio bob nos neu'n bwyta allan?
Mae hi'n well gen i goginio gan amlaf - dwi'n mwynhau'r broses o roi rhaglen deledu ar y tabled, rhoi'r clustffonau ymlaen a mynd ar goll mewn rys谩it newydd.
Ond wrth gwrs, mae angen bwyta allan weithiau i gefnogi busnesau lleol... Rydyn ni'n lwcus iawn yn yr ardal hon gyda bwytai gwych o fewn cyrraedd, ond dwi hefyd yn hoffi bwyta sbwriel llwyr. Fy hoff takeaway ydi pryd triphlyg o McDonalds: Big Mac meal gyda Coke, double cheeseburger a mayo chicken.
Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?
Dwi'n arbenigwr ar f卯ns: dwi wedi postio dros gant o luniau o brydau amrywiol yn defnyddio ffa pob ar instagram, yn defnyddio'r hashnod #adventuresinbeans ac wedi coginio cannoedd o brydau eraill gyda b卯ns. Macaroni caws gyda b卯ns, fry-up gyda b卯ns, 诺y ar dost gyda b卯ns, pastai gyda b卯ns... unrhywbeth gyda b卯ns.
Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?
B卯ns ar dost. Pryd cyfan ar y pl芒t mewn llai na dwy funud.
Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?
Roeddwn i'n arfer byw ar fy mhen fy hun ac yn bwyta tipyn o gig, ond gyda fy ng诺r nid yn unig yn lysieuwr ond hefyd yn anobeithiol yn y gegin, dwi wedi lleihau faint o gig dwi'n ei fwyta'n sylweddol, nes fy mod i fwy neu lai'n llysieuwr fy hun bellach. Dwi'n sicr yn bwyta'n iachach wrth fynd yn h欧n ac roeddwn i'n arfer ofn coginio gyda sbeis tan yn ddiweddar.
Beth yw dy hoff bryd o fwyd?
Dwi'n hoffi blasau cynnil pysgod ond er yr holl s么n uchod am beidio bwyta cig, does 'na ddim byd yn curo burger pinc yn ei ganol gyda bacwn seimllyd, caws yn diferu o'r ochrau a llond powlen o chips hallt.
Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?
Dwi wedi bwyta foie gras yn y gorffennol ac er ei fod yn hollol anfoesol, roedd y blas yn wych.
Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta / goginio?
Fe gefais i ymennydd llo (veal brain) mewn bwyty seren Michelin yn Chicago - y blas yn iawn ond teimlo'n rhyfedd ar y naw i'w fwyta. Fe wnes i goginio stecen sy'n dod o blanhigyn (plant-based steak) yn ddiweddar - blas cryf ac yn bur debyg i gig ond ar yr un pryd, roedd 'na rywbeth rhyfedd amdano!
Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?
Mae 'na ambell bryd yn mynd 芒 rhywun yn 么l i'w blentyndod gydag un llond ceg - lobsgows Mam, cinio dydd Sul gyda moron wedi'i stwnsho fel roedd Nain yn eu coginio - ond dwi'n meddwl mai'r bwyd sydd agosaf at fy nghalon ydi'r hyn dwi'n ei fwyta amlaf: b卯ns.
Beth yw dy hoff gyngor coginio?
Amseru a phwyso popeth, a dilyn pob rys谩it i'r gair. Mae pawb yn gallu coginio: y cyfan sydd angen gwneud yw dilyn y cyfarwyddiadau mae pobl llawer mwy galluog wedi eu creu. Dyna dwi'n ei wneud! Hefyd, buddsoddi mewn clustffonau o safon (noise-cancelling headphones) i ladd s诺n y ffwrn a'r ffan - golygu bod modd gwrando ar unrhywbeth wrth goginio.
Beth oedd dy hoff bryd o fwyd erioed?
Pryd 10 cwrs yn 搁别濒忙, Copenhagen. Roedd pob cynhwysyn o'r pryd wedi dod o'u fferm ar gyffiniau'r ddinas a tra'r oedd y cyflwyniad yn hollol syml, roedd y bwyd yn hollol wreiddiol: nionyn gyda chawl blas coeden fedw i ddechrau, a phwdin madarch a caramel. Bythgofiadwy.
Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?
Fe wna i drio unrhywbeth newydd o fewn rheswm ond mae'n rhaid i mi gadw'n bell i ffwrdd o gorgimwch, fel wnes i ddysgu ar 么l cael cyri yn nh欧 ffrind a threulio'r noson gyfan yn s芒l yn y 'stafell ymolchi.