大象传媒

Cyflwyno Papur Gwyn ar gwricwlwm newydd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Addysg

Mae ymgynghoriad ar yr hyn mae Llywodraeth Cymru'n dweud yw'r newidiadau mwyaf i'r cwricwlwm ers yr 1980au wedi ei lansio ddydd Llun.

Bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn cyflwyno Papur Gwyn yn seiliedig ar ei gweledigaeth am ddyfodol addysg i blant yng Nghymru.

Mae'r cwricwlwm newydd, er iddo gael ei oedi am flwyddyn, wedi cael ei feirniadu gan benaethiaid addysg am fod yn "generig" a "gwan".

Mynnodd Ms Williams bod y newidiadau arfaethedig yn "uchelgeisiol a phellgyrhaeddol".

Fe wnaeth arolwg annibynnol, a gafodd ei gynnal gan yr Athro Graham Donaldson yn 2015, awgrymu sefydlu cwricwlwm newydd gyda phwyslais ar lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cwricwlwm newydd wedi'i ddylunio gan athrawon, ac na fydd Cymraeg yn cael ei ddiffinio'n bwnc iaith gyntaf neu ail-iaith yn y dyfodol.

'Codi safonau'

Dywedodd Ms Williams: "Prif ddiben y daith hon yw codi safonau - rydym am weld ein dysgwyr yn datblygu gwell sgiliau llythrennedd a rhifedd, rydym am iddynt fod yn ddysgwyr dwyieithog medrus sydd 芒 sgiliau digidol da.

"Rydym am iddynt hefyd ddatblygu'n unigolion mentrus, creadigol聽sy'n meddwl yn feirniadol.

"Rwy'n hollol glir bod rhaid inni symud i ffwrdd o gwricwlwm cul, gorlawn ac anhyblyg er mwyn codi safonau a sicrhau cyfleoedd ehangach."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Kirsty Williams bod y newidiadau arfaethedig yn "uchelgeisiol a phellgyrhaeddol"

Fel rhan o'r cynlluniau bydd Cymraeg a Saesneg yn parhau'n statudol, ynghyd ag astudiaethau crefyddol ac addysg rhywioldeb.

Bydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol hefyd yn statudol hyd at 16 oed.

Fe fydd cyfnodau allweddol yn cael eu dileu, gyda "chamau cynnydd" - fydd yn cyfateb 芒'r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr pump, wyth, 11, 14 ac 16 oed - yn cymryd eu lle.

"Dyma gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru," meddai Ms Williams.

"Rydym wrthi'n datblygu cwricwlwm newydd sy'n sicrhau bod dysgwyr yn barod i wynebu heriau'r dyfodol, ond hefyd rydym yn datblygu cwricwlwm drwy gydweithio, yng ngwir ystyr y gair, gydag ysgolion a rhanddeiliaid."