Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ap锚l clwb Bangor am gymorth ariannol
Mae Clwb P锚l-droed Dinas Bangor yn galw am gymorth cyfranddalwyr ar 么l i gredydwyr atal cyflenwadau d诺r a thrydan i'r clwb.
Mae Bangor yn parhau yn obeithiol y byddant yn gallu cynnal eu g锚m yn erbyn Gresffordd dydd Sadwrn yng Nghynghrair Undebol Huws-Gray, er gwaetha'r ffaith fod ganddynt ddyledion o 拢80,000.
Mewn datganiad dywed y clwb eu bod wedi cael bil trydan o 拢16,000 ar gyfer y cyfleusterau y maen nhw - a'r perchnogion Nantporth CIC - yn defnyddio, a bod y cyflenwad wedi ei atal.
Awgrymodd y datganiad fod y bil iddyn nhw yn annheg gan mae Nantporth CIC oedd yn defnyddio'r gyfran fwyaf o'r adnoddau.
Dywed Bangor fod eu cyflenwad d诺r hefyd wedi ei atal, gyda bil o 拢9,000 yn ddaliadwy.
Ychwanegodd y datganiad fod trafodaethau yn cael eu cynnal er mwyn ceisio talu'r dyledion, gan gynnwys arian y mae'r clwb yn dweud sy'n ddyledus iddyn nhw gan Gymdeithas B锚l-droed Cymru.
Cyfanswm yr holl gredydwyr yw 拢80,000, yn 么l y clwb.