Chwe Gwlad: Enwi t卯m Cymru i wynebu Ffrainc

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Gareth Anscombe wedi ennill y ras i chwarae'n safle'r maswr

Mae Warren Gatland wedi enwi ei d卯m i wynebu Ffrainc ym Mharis nos Wener yn rownd agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Tomos Williams sy'n cychwyn fel mewnwr gyda Gareth Davies yn ddigon ffit i fod ymhlith yr eilyddion.

Gareth Anscombe sydd wedi ei ddewis yn safle'r maswr, gyda Dan Biggar ar y fainc.

Y clo profiadol Alun Wyn Jones fydd yn gapten, gydag Adam Beard - sydd eto i golli yng nghrys Cymru - ym ymuno ag o yn yr ail reng.

Nid yw'r cefnwr Leigh Halfpenny (cyfergyd), y maswr Rhys Patchell (llinyn y gar) na'r canolwr Scott Williams (pigwrn) ar gael oherwydd anafiadau.

Eleni yw'r tro olaf y bydd Gatland wrth y llyw ar gyfer y Chwe Gwlad, ag hithau hefyd yn flwyddyn Cwpan y Byd.

T卯m Cymru i wynebu Ffrainc:

Liam Williams (Saracens); George North (Gweilch), Jonathan Davies (Scarlets), Hadleigh Parkes (Scarlets), Josh Adams (Caerwrangon); Gareth Anscombe (Gleision), Tomos Williams (Gleision); Rob Evans (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Tomas Francis (Caerwysg), Adam Beard (Gweilch), Alun Wyn Jones (gweilch, capten), Josh Navidi (Gleision), Justin Tipuric (Gweilch), Ross Moriarty (Dreigiau).

Eilyddion: Elliot Dee (Dreigiau), Wyn Jones (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Cory Hill (Dreigiau), Aaron Wainwright (Dreigiau), Gareth Davies (Scarlets), Dan Biggar (Northampton), Owen Watkin (Gweilch).

T卯m Ffrainc:

Maxime Medard; Damian Penaud, Wesley Fofana, Romain Ntamack, Yoann Huget; Camille Lopez, Morgan Parra; Jefferson Poirot, Guilhem Guirado (capten), Uini Atonio, Sebastien Vahaamahina, Paul Willemse, Wenceslas Lauret, Arthur Iturria, Louis Picamoles.

Eilyddion: Julien Marchand, Dany Priso, Demba Bamba, Felix Lambey, Gregory Alldritt, Baptiste Serin, Gael Fickou, Geoffrey Doumayrou.