Rhannau o gerbyd rhyfel Celtaidd Sir Benfro yn drysor

Ffynhonnell y llun, Mike Smith

Disgrifiad o'r llun, Un o'r eitemau gafodd eu claddu yn Sir Benfro oedd dolen gyfrwy

Mae eitemau o domen gladdu Celtaidd yn Sir Benfro wedi eu dynodi'n drysor gan grwner - sy'n golygu y gallai'r dyn wnaeth eu darganfod elwa'n sylweddol.

Fis Chwefror y llynedd fe wnaeth Mike Smith o Aberdaugleddau ddod o hyd i'r safle o ddiwedd yr Oes Haearn wrth ddefnyddio datgelydd metal.

Dywedodd Mr Smith y gallai'r eitemau, sy'n dyddio 'n么l 2,000 o flynyddoedd, fod werth swm chwe ffigwr wrth gael eu gwerthu.

Ond byddai'n rhaid iddo rannu hanner unrhyw arian gyda pherchennog y safle.

Dywed Amgueddfa Cymru eu bod nawr am geisio prynu'r trysor - gyda'r gost yn cael ei benderfynu gan aseswr annibynnol.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Mike Smith y gallai'r trysor fod gwerth swm chwe ffigwr

Mae'r darganfyddiad yn cynnwys rhan o gerbyd rhyfel, tlws ceffyl mawr, dolen gyfrwy fawr, strap ac addurniadau harnais.

Fe fydd lleoliad y safle yn ne Sir Benfro yn parhau'n gyfrinach gan y bydd angen i archeolegwyr ddychwelyd yno.

Dywedodd Mr Smith y bydd y canfyddiad yn newid ei fywyd:

"Dwi dal methu coelio'r peth. Yn amlwg, rwyf wedi darllen am ddarganfyddiadau pobl eraill.

"Rwy' wedi gwylio pethau fel hyn ar y teledu a meddwl 'na'i byth ddod o hyd i rywbeth fel yna', felly i ddod o hyd iddo mae'n beth swreal... bydd o'n newid fy mwyd.

O ran gwerth y darganfyddiad dywedodd: "Mae'n fater o ddyfalu, ond rwy'n sicr eich bod yn son am swm chwe neu saith ffigwr.

"Hwn yw'r dargafnyddiad mwyaf o'i fath gan ddefnyddio datgelydd metel.

"Does neb erioed wedi canfod cerbyd rhyfel gyda'r dull hyn o'r blaen.

"Mae pobl wedi dod o hyd i gasgliadau, ond ddim byd fel hyn."

Ffynhonnell y llun, Mike Smith

Disgrifiad o'r llun, Rhan o harnais sy'n awgrymu mai dwy ferlen fyddai wedi tywys y cerbyd rhyfel

Ffynhonnell y llun, Heritage Images

Disgrifiad o'r llun, Llun artist o gerbyd rhyfel Celtaidd

Dyma'r gr诺p cyntaf o arteffactau gydag addurniadau Celtaidd i gael eu darganfod yn Sir Benfro, ac mae'n rhoi cipolwg ar ddulliau a thechnegau addurno cerbydau rhyfel yn ardal llwythau'r Demetae neu'r Octapitae yn y ganrif gyntaf 么l Crist.

Hap a damwain oedd i Mr Smith ddod o hyd i'r union safle.

Ar y pryd roedd yn gobeithio archwilio safle arall, ond roedd hwnnw dan dd诺r.

Felly trodd ei sylw at safle'r darganfyddiad lle nad oedd wedi cael llawer o lwc yn y gorffennol.

Yn gyntaf roedd yn meddwl iddo ddod o hyd i eitem o'r oesoedd canol, ond ar 么l anfon llun at arbenigwr clywodd ei fod yn addurn oedd yn perthyn i'r Oes Geltaidd.

Ffynhonnell y llun, Mike Smith

Disgrifiad o'r llun, Yr eitemau celf o gyfnod La T猫ne yw'r rhai cynaf i gael eu darganfod yn Sir Benfro

Ffynhonnell y llun, Mike Smith

Disgrifiad o'r llun, Mike Smith yn edrych ar olion o'r cerbyd rhyfel

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Archaeoleg Gynhanesyddol Amgueddfa Cymru, bod y darganfyddiad o "gyfnod o newid cymdeithasol pwysig tuag adeg y goresgyniad Rhufeinig".

"Daeth llwythau Prydeinig yr Oes Haearn i gysylltiad 芒'r Rhufeiniaid, a bu brwydro wrth i ddau fyd a dau ddiwylliant gyfarfod.

"Mae'n bosibl i'r arteffactau hyn weld rhai o ddigwyddiadau mawr y cyfnod, wrth i'r brodorion amddiffyn eu harferion a'u hunaniaeth yn wyneb ymerodraeth fawr."

Dywedodd llefarydd ar ran yr amgueddfa: "Bydd Amgueddfa Cymru yn ceisio prynu'r trysor hwn ar ran y genedl i'w ychwanegu at y casgliad cenedlaethol."