Ford Pen-y-Bont yn cyflwyno 400 o ddiswyddiadau
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni ceir Ford wedi cyhoeddi eu bod ar drothwy proses fydd yn gweld 350-400 o'u gweithwyr yn "diswyddo'n wirfoddol".
Fe fydd y diswyddiadau yn effeithio gweithwyr y safle ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.
Yn 么l llefarydd, mae'r cynllun yn rhan o'u hymdrechion i greu "busnes proffidiol a chynaliadwy".
Mae disgwyl i'r diswyddiadau ddigwydd yn ail hanner 2019.
Mae'r cyhoeddiad yn cadarnhau honiadau gan undebau fel Unite a GMB y bydd nifer o weithwyr yn colli eu swyddi yn y ffatri.
Ym mis Mawrth 2017, rhybuddiodd Unite y gall hyd at 1,700 o swyddi gael eu torri yn y ffatri erbyn 2021, ac ar ddechrau 2019, dywedodd GMB eu bod wedi cael gwybod y byd 990 o swyddi'n cael eu torri erbyn 2020.
'Ffrwyth llafur trafodaethau'
Dywedodd lefarydd o gwmni Ford bod y "cynllun yn ffrwyth llafur trafodaethau ag undebau ar gyfateb nifer y gweithwyr gyda disgwyliadau cynhyrchu'r dyfodol".
Mae'r ymddiswyddiadau yn debygol o fod yn ymateb i'r cyhoeddiad na fydd y ffatri yn cynhyrchu injans Jaguar Land Rover o ddiwedd 2019 ymlaen.
Er bod Ford wedi buddsoddi 拢100m mewn cynhyrchu injan newydd Dragon, y disgwyl yw y bydd hynny ond yn cyflogi tua 500 o'r 1,700 sydd yn cael eu cyflogi yno ar hyn o bryd.
Cadarnhaodd Ford y bydd y gweithwyr sy'n cael eu dewis i ymddiswyddo'n wirfoddol yn gadael y cwmni erbyn 2019.
'Cyfnod anodd' i'r gymuned
Yn 么l ysgrifennydd rhanbarthol Unite Cymru, Peter Hughes, bydd yr undeb yn cefnogi'r staff "yn ystod y cyfnod pryderus ac ansicr hwn".
"Rydym am sicrhau eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau clir a chytbwys am eu dyfodol, ac mi fydd gennym adnoddau yn eu lle i gynnig arweiniad a chymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn i deuluoedd ac i'r gymuned ehangach," meddai.
Ychwanegodd bydd yr undeb hefyd yn parhau i weithio gyda Ford a Llywodraeth Cymru i geisio dod o hyd i fuddsoddiad arall er mwyn cynyddu'r cyfleoedd gwaith yn y ffatri.
Mae Unite hefyd yn galw ar Ford i flaenoriaethu'r aelodau staff sydd wedi colli swyddi pan fydd galw am "gynhyrchu technoleg hybrid a darnau ar gyfer cerbydau trydan yn y dyfodol" ac "adeiladu ar lwyddiant yr injan Dragon".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019