大象传媒

Pryder am 1,000 o swyddi yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont

  • Cyhoeddwyd
Ford Pen-y-bontFfynhonnell y llun, PA

Mae 大象传媒 Cymru yn deall y gallai Ford ddiswyddo 370 o weithwyr fel rhan o gam cyntaf bron i 1,000 o ddiswyddiadau ym Mhen-y-bont.

Dywedodd Jeff Beck o undeb GMB y byddan nhw'n ymladd dros bob swydd yn y ffatri, a hynny wrth i oruchwylwyr yno gael eu briffio am yr ailstrwythuro.

Ym mis Mawrth 2017 fe wnaeth undeb Unite rybuddio y gallai 1,160 o swyddi gael eu colli ar y safle erbyn 2021.

Dywedodd undeb GMB eu bod wedi cael gwybod y byd 990 o swyddi'n cael eu torri ym Mhen-y-bont, a hynny erbyn 2020.

Mae cytundeb y ffatri i gynhyrchu injans i Jaguar Land Rover yn dod i ben ar ddiwedd 2019, yr un pryd ag y byddan nhw'n stopio gwneud injan Ford Ecoboost hefyd.

Mae Ford wedi buddsoddi 拢100m mewn cynhyrchu injan newydd Dragon, ond y disgwyl yw y bydd hynny'n cyflogi dim ond tua 500 o'r 1,700 sydd ar hyn o bryd yn gweithio yno.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y byddai ef a Gweinidog yr Economi, Ken Skates yn gofyn am gyfarfod gyda Ford i drafod eu cynlluniau.

'Newyddion trychinebus'

Dywedodd Jeff Beck o undeb GMB: "Rydyn ni wedi bod yn holi'r cwmni am ddwy flynedd am eglurder o ran y sefyllfa am swyddi, a dydyn ni ddim wedi cael ateb nes heddiw.

"Ry'n ni nawr wedi cael gwybod y byd 990 o swyddi'n cael eu torri ym Mhen-y-bont erbyn 2020, sy'n newyddion trychinebus i'r gweithwyr ymroddedig a'u teuluoedd."

Dywedodd undeb Unite ei fod yn "newyddion garw" a bod goruchwylwyr yn y ffatri wedi cael eu briffio.

"Mae hyn yn ergyd fawr i'n haelodau a'u teuluoedd, yn ogystal 芒 bod 芒 goblygiadau difrifol i economi Cymru a'r gadwyn gyflenwi," meddai'r swyddog Des Quinn.

"Mae Unite wedi ymrwymo'n llwyr i wrthwynebu unrhyw ddiswyddiadau gorfodol ac ymgyrchu'n gryf dros ddyfodol dichonadwy i Ben-y-bont."

Dywedodd Mr Drakeford ddydd Gwener: "Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio'n agos gyda Ford i amddiffyn y cannoedd o swyddi hynod fedrus ynghyd 芒'r gadwyn gyflenwi, yn ogystal 芒 chwilio am gyfleoedd technoleg uchel eraill ar gyfer y safle."

Dyw Ford ddim wedi gwneud sylw ar y ffigwr o 370 o swyddi, ond dywedodd llefarydd y byddan nhw'n datgelu rhagor am eu cynlluniau ailstrwythuro yn dilyn trafodaethau gydag undebau ac eraill.

Ychwanegodd y cwmni y byddan nhw'n canolbwyntio ar y marchnadoedd ble roedd y rhan fwyaf o'u staff a'u gwaith, megis yr Almaen a'r DU.

Llynedd cafwyd ansicrwydd wedi i weithwyr y ffatri ym Mhen-y-bont gael eu hanfon adref am wythnos ar d芒l sylfaenol, wrth i linell gynhyrchu ddod i ben am bum diwrnod.

Wedi hynny daeth i'r amlwg bod cwmni cemegol Ineos mewn trafodaethau gyda Ford i ddefnyddio'r ffatri i adeiladu car newydd.

Daeth cyhoeddiad diweddaraf Ford wrth i Jaguar Land Rover gyhoeddi eu bod nhw'n cael gwared 芒 4,500 o swyddi, ac wrth i Honda ddweud y byddai gwaith yn dod i stop am chwe diwrnod wedi Brexit.