大象传媒

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Ffrainc 19-24 Cymru

  • Cyhoeddwyd
George North yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymru wedi dechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni gyda buddugoliaeth hynod gyffrous yn erbyn Ffrainc.

Ar 么l bod 16 pwynt ar ei hol hi ar hanner amser, brwydrodd t卯m Warren Gatland 'n么l i drechu'r t卯m cartref 19-24.

Roedd dau gais gan George North ac un gan Tomos Williams yn ddigon i ennill yr ornest i'r ymwelwyr.

Mae Cymru wedi trechu Ffrainc saith gwaith allan o'r wyth g锚m ddiwethaf, gan gynnwys tair buddugoliaeth o bedair ym Mharis.

Dechreuodd y Ffrancwyr ar d芒n o flaen torf swnllyd y Stade de France, gan lwyddo i ddarganfod sawl bwlch yn amddiffyn y crysau cochion.

Daeth y cais cyntaf wedi pum munud o chwarae gyda'r wythwr, Louis Picamoles, yn camu heibio Gareth Anscombe a Liam Williams er mwyn trosi i'r dde o'r pyst.

Roedd tywydd garw Paris yn amlwg yn cael effaith ar gicio'r ddau d卯m, gyda'r pum ymgais gyntaf at y pyst yn cael eu methu gan Anscombe a Morgan Parra.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y dyfarnwr o'r farn bod Liam Williams wedi taro'r b锚l ymlaen o'i ddwylo

Roedd Cymru yn credu eu bod nhw wedi unioni'r sg么r ar 么l gwaith ardderchog gan Liam Williams lawr yr asgell chwith, ond cafodd y b锚l ei tharo yn ei blaen o ddwylo'r cefnwr.

Daeth ail gais i'r t卯m cartref wedi pas gelfydd gan Arthur Iturria i ddwylo'r asgellwr Yoann Huget a redodd yn glir am y gornel.

Fe wnaeth Parra ychwanegu triphwynt o gic gosb yn ogystal 芒 chic ardderchog o'i ddwylo er mwyn ei gwneud hi'n 16-0 i Ffrainc ar yr hanner.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yoann Huget yn dathlu ail gais y Ffrancwyr

Digon araf oedd dechreuad Cymru i'r ail hanner hefyd, ond wedi cyfnod hir o feddiant fe lwyddodd Tomos Williams i daro 'n么l i'r ymwelwyr.

Fe wnaeth Josh Adams fanteisio ar amddiffyn llac gan Ffrainc cyn amseru'r bas i Williams yn berffaith.

Pum munud yn ddiweddarach daeth ail gais i'r Cymry ar 么l camgymeriad ofnadwy gan Huget.

Wrth geisio codi'r bel yn dilyn cic ddofn, fe lithrodd yr asgellwr profiadol gan alluogi North i gydio yn y b锚l a neidio dros y llinell gais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Aeth Cymru ar y blaen am y tro cyntaf yn y g锚m diolch i gic gosb yr eilydd, Dan Biggar.

Ar 么l colli'r fantais dechreuodd Ffrainc reoli'r chwarae unwaith eto, gyda'u blaenwyr corfforol yn gwthio amddiffyn Cymru i'r eithaf.

Y blaenwyr hynny oedd yn gyfrifol am ennill cig gosb i'r t卯m cartref wedi 70 munud, gan roi cyfle euraidd i Camille Lopez roi Ffrainc yn 么l ar y blaen.

Ond gydag wyth munud yn weddill, fe wnaeth camgymeriad arall gan Sebastien Vahaamahina alluogi North i ryngipio, a rhedeg yn glir am y llinell gais o 60m.

Er i Ffrainc barhau i bwyso yn eiliadau olaf y g锚m, roedd amddiffyn Cymru yn ddigon cadarn i selio'r fuddugoliaeth.