Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
CPD Bangor yn 'cydnabod cyfrifoldeb' i dalu bil trydan
Mae CPD Dinas Bangor wedi cadarnhau eu bod yn "cymryd cyfrifoldeb" dros dalu bil trydan 拢16,000, sydd heb ei dalu yn stadiwm Nantporth.
Mae'r cyflenwad wedi'i atal ers dydd Mercher sy'n golygu fod Bangor yn chwarae eu g锚m gartref yng Nghynghrair Undebol Huws Gray ddydd Sadwrn yn erbyn Gresffordd ar faes Conwy.
Yn wreiddiol fe honnodd y clwb ei bod yn annheg disgwyl iddyn nhw dalu'r bil i gyd gan mai cwmni Nantporth CIC oedd yn defnyddio'r gyfran fwyaf o'r adnoddau ar y safle.
Mewn datganiad i raglen Ar y Marc, Radio Cymru, dywedodd Luke Purcell, rheolwr cyffredinol y clwb: "Mae'r bil trydan yn enw'r clwb, felly er bod hi'n sefyllfa ansicr, fe fydd yn rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb dros y bil a'i dalu yn y pendraw."
'Taliadau perthnasol'
Mae cwmni Nantporth CIC, sy'n rhedeg y safle, sy'n cynnwys y stadiwm ac adeiladau eraill, yn ogystal 芒 chae p锚l-droed 3G y drws nesaf, ar ran y perchnogion, Cyngor Dinas Bangor eu bod eisoes wedi gwneud y "taliadau perthnasol."
Dywedodd llefarydd: "Mae Nantporth CIC wedi gwneud taliadau perthnasol i CPD Dinas Bangor, fel taliadau uniongyrchol neu fel credyd yn lle biliau oedd yn ddyledus i ni gan y clwb, un ai am ddefnydd o'r cae neu am ddyledion rhent."
Yn ogystal 芒 chynnal gemau CPD Dinas Bangor, mae'r stadiwm wedi cael ei defnyddio ar gyfer gemau cartref clybiau lleol eraill mewn cystadlaethau Ewropeaidd.
Dywedodd Ian Gill sy'n un o gefnogwyr Bangor sydd wedi stopio mynychu gemau'r clwb y tymor hwn ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru "nad yw'r perchnogion presennol yn cynrychioli Bangor.
"Mae ganddo ni dim dydd wedi'i lleoli ym Mangor, maen nhw'n chwarae ar gae ym Mangor ond ddim t卯m Bangor ydyn nhw. Pobl o'r tu allan ydi'r rhain," meddai.
Mae'r clwb wedi wynebu nifer o broblemau ers disgyn o Uwch Gynghrair Cymru'r tymor diwethaf, am fethu cael y drwydded angenrheidiol oherwydd trafferthion ariannol.
Mae cyflenwad d诺r y stadiwm hefyd wedi'i atal oherwydd dyled o 拢9,000, ac mae arian yn ddyledus i'r chwaraewyr a staff, yn ogystal.
'Cydnabod cyfrifoldeb'
Ychwanegodd Mr Purcell: "Yr hira rydan ni'n dadlau dros hyn, yna yr hira'n byd fydd y sefyllfa yn parhau heb gyflenwad p诺er yn y stadiwm, a tydi'n cefnogwyr ni ddim yn haeddu hynny.
"Mi rydan ni'n gobeithio cyhoeddi noddwr newydd i'r stadiwm yn y dyddiau nesa, ac eisoes wrthi'n cyfarfod grwpiau fyddai 芒 diddordeb mewn ymuno yn y prosiect.
"Y flaenoriaeth r诺an ydi sicrhau fod ganddon ni glwb, ac er ein bod hi'n anodd ar hyn o bryd, rydan ni'n gobeithio y gwnawn ni weld dyddiau gwell.
"Mae'r clwb mor bwysig i'r cefnogwyr ac i'r ddinas ac mae'n rhaid i ni fel bwrdd gydnabod ein cyfrifoldeb.
"Y cefnogwyr sy'n gwneud y clwb, a fyddwn i ddim dal yma'n bersonol, oni bai am y gefnogaeth dwi'n ei gael ganddyn nhw.
"Mae ganddon ni wirfoddolwyr sy'n deyrngar i'r clwb, ac sy'n barod i weithio a sicrhau fod dyddiau gwell ar ddod I Glwb P锚l-droed Dinas Bangor," meddai.