Pobol ifanc yn rhannu cynnwys ar y we 'heb feddwl'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl ifanc wedi cyfaddef bod 'na duedd i'w cyfoedion rhannu cynnwys ar y we "heb feddwl" am y goblygiadau, yn 么l ymchwil gan UK Safer Internet Centre,

Yn 2018, cafodd lluniau neu fideos o 43% o'r bobl ifanc a gymrodd rhan yn yr ymchwil ei rhannu heb eu caniat芒d - er bod 83% ohonyn nhw yn dweud eu bod nhw'n ymwybodol bod angen parchu eraill ar y we.

Mae'r ffigyrau yn gadarnhad i rhai o rym ffonau symudol a gwefannau cymdeithasol i alluogi ac annog ymddygiad fel seibr-fwlio.

Daw'r ymchwil fel rhan o Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

Dywedodd Will Gardner, cyfarwyddwr UK Safer Internet Centre bod yna "fwlch nodweddiadol" rhwng agweddau pobl ifanc i wneud a chaniat芒d ar y we, a sut maen nhw'n gweithredu.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ymchwil yn dangos fod rhannu sgrinlun o gynnwys pobl eraill yn rhan o batrwm wythnosol dros chwarter o bobl ifanc

Yn 么l yr ymchwil, mae tynnu sgrinlun, neu screenshots o gynnwys personol pobl eraill, fel lluniau, sylwadau a negeseuon yn rhan o batrwm wythnosol 26% o bobl ifanc.

Un gafodd ei thargedu gan y math yma o ymddygiad oedd Rebecca o dde Cymru (ddim ei henw iawn).

Tra mewn parti gyda'i ffrindiau a'i chariad, cafodd llun ohoni ei dynnu oedd yn gwneud iddi edrych fel petai hi'n gwisgo llai o ddillad nag oedd hi.

Cafodd y llun ei rannu ar gyfrif Snapchat ei ffrind, cyn i ferch oedd yn arfer bod mewn perthynas 芒 chariad Rebecca dynnu sgrinlun a'i rhannu ymhellach.

Ymhen ychydig oriau, cafodd Rebecca ei thargedu gan lith o sylwadau sarhaus.

"Roedd 'na sylwadau yn fy ngalw fi'n sket a slag ac enwau lot gwaeth. Roeddwn i methu siarad, ro ni wedi rhewi. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i feddwl am y peth. Mi nath o wneud imi deimlo mor ddrwg amdanaf i fy hun," meddai.

Achos o un sgrinlun, fe ddaeth Rebecca yn darged i wythnos o fwlio ar-lein, yn aml gan bobl doedd hi ddim yn ei hadnabod.

"Fyswn i ddim yn dymuno fod neb yn cael eu bwlio fel ges i. Does 'na neb yn haeddu mynd trwy'r profiad yna."

Dyw Rebecca ddim ar ben ei hun: yn 么l Ofcom, mae un o bob deg o bobl ifanc rhwng 12-15 wedi profi seibr-fwlio mewn rhyw ffurf neu'i gilydd.

Dywedodd Liz Stanton o elusen Get Safe Online: "Mae pobl yn meddwl am fwlio fel rhywbeth sy'n digwydd ar yr iard ysgol.

"Ond mae seibr-fwlio yn gyson ac yn gudd. Mae o yna 24/7 bob dydd. Mae'r bwli yn eich poced cefn, lle mae rwy'n yn cario'r ffon - yn fanno mae'r bwli yn byw."

Yn 么l yr ymchwil gan UK Safer Internet Centre, fe fyddai 79% o'r bobl ifanc yn ceisio gwahardd cynnwys ohonyn nhw sydd wedi ei gyhoeddi heb eu caniat芒d.

Ond fe ddywedodd 33% na fydden nhw'n dileu llun neu fideo o'u ffrind petai nhw'n gofyn.

Disgrifiad o'r llun, Mae Sally Holland wedi treulio'r misoedd diwethaf yn gwrando ar bryderon dros 400 o blant a pobl ifanc am y we.

Yn 么l Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, mae seibr-fwlio yn un o'r prif bryderon sy'n codi ymysg pobl ifanc yng Nghymru.

Dywedodd Ms. Holland wrth Eye on Wales: "Rydym ni wedi clywed bod plant a phobl ifanc wedi cael digon o oedolion yn dweud wrthyn nhw beth a beth ddim i wneud ar lein.

"Maen nhw eisiau lle i drafod y mater cymhleth yma mewn awyrgylch saff. Roedd y bobol ifanc yn teimlo nad ydi'r oedolion sydd o'u cwmpas yn deall y byd ar-lein a'u bod nhw methu a dal fyny a'r dechnoleg.

"Mae hyn yn cyd-fynd a beth mae athrawon a gweithwyr ieuenctid yn ei ddweud."

Ar 么l trafodaethau gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, mae Ms. Holland wedi galw mewn adroddiad ar ysgolion i greu awyrgylch saff a chefnogol i ddioddefwyr.

Mae hi hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried lleisiau pobol ifanc Cymru, gan eu bod nhw wrthi yn ymgynghori ar gynlluniau gwrth-fwlio.

"Dw i eisiau gweld Cymru sy'n gwarchod hawliau plant, gan gynnwys ar lein," meddai.

Mae stori Rebecca i'w chlywed ar Eye On Wales, ar 大象传媒 Sounds neu ar 大象传媒 Radio Wales, dydd Mercher, 6 Chwefror am 18.30.