Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Horizon yn bwrw 'mlaen 芒 chais cynllunio Wylfa Newydd
Mae cwmni P诺er Niwclear Horizon yn bwriadu bwrw 'mlaen gyda'u hymdrechion i sicrhau caniat芒d cynllunio ar gyfer Wylfa Newydd, er i'w rhiant-gwmni, Hitachi, atal y gwaith ar adeiladu'r orsaf b诺er.
Dywedodd Horizon eu bod yn gwneud hyn er mwyn ei gwneud yn haws i'r prosiect ailddechrau pe bai cytundeb ar gynllun ariannu.
Cadarnhaodd Hitachi ym mis Ionawr eu bod yn bwriadu atal y gwaith ar adeiladu Wylfa Newydd yn sgil costau adeiladu.
Dywedodd Anthony Webb o Horizon bod y cais "ddim yn newid y penderfyniad i ohirio'r gweithgareddau ehangach ond bydd yn helpu rhoi'r cyfle gorau i ailddechrau prosiect Wylfa Newydd".
'Tanseilio democratiaeth'
Roedd disgwyl i 9,000 o weithwyr fod yn rhan o'r gwaith adeiladu ar gyfer dau adweithydd niwclear, oedd i fod yn weithredol yng nghanol y 2020au.
Ddydd Mercher fe wnaeth AS Llafur Ynys M么n, Albert Owen feirniadu cadeirydd Hitachi am ddweud mai gwladoli'r fenter yw'r unig ffordd o ailddechrau'r gwaith ar yr orsaf b诺er.
Mae Ysgrifennydd Ynni y DU, Greg Clarke wedi dweud ei bod yn bosib gweithio tuag at adeiladu'r orsaf b诺er "erbyn y 2030au os oes modd cytuno ar fodel ariannu".
Yn y cyfamser, mae ymgyrchwyr Pobl Atal Wylfa B (PAWB) wedi dweud bod Horizon yn "tanseilio democratiaeth Gymreig" yn y broses o wneud cais cynllunio am yr orsaf.
Dywedon nhw eu bod wedi derbyn llythyr gan Weinidog Ynni Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths ddydd Mercher yn "datgan bod Horizon wedi tynnu'r cais cynllunio yn 么l, ac mai dim ond fel rhan o waith y cais i'r Arolygiaeth Gynllunio y byddai gwaith paratoi a chlirio safle'r Wylfa Newydd yn cael ei drafod".
'Tawelwch Llywodraeth Cymru'n siomedig'
Yn 么l PAWB, mae hyn yn golygu bod hawl Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cynllunio cyhoeddus llawn "yn y fantol".
"Mae Horizon mewn ffordd gwbl sinigaidd wedi tanseilio democratiaeth Gymreig a threfniadau pwerau datganoledig yn llwyr," meddai PAWB mewn datganiad.
"Mae tawelwch Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒'r mater hwn hefyd yn siomedig a dweud y lleiaf.
"Mae PAWB yn galw yn awr ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Lesley Griffiths fel y gweinidog perthnasol i gysylltu ar unwaith 芒'r Arolygiaeth Gynllunio i fynnu eu bod yn cael ymarfer eu hawl ddatganoledig i gynnal ymchwiliad cynllunio lleol a chyhoeddus ar gais cynllunio gan Horizon oedd yn cynnwys nifer o elfennau anfoddhaol."