大象传媒

Mr. Mark: Cnoi cil gyda chyfansoddwr Catatonia

  • Cyhoeddwyd
Cyrff
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Cyrff yn cael brwydr i ddarganfod pwy yw'r aelod mwyaf m诺di

Nos Wener, 15 Chwefror cafodd dau o gyn-aelodau'r bandiau Y Cyrff a Catatonia eu hanrhydeddu gyda gwobr Cyfraniad Arbennig cylchgrawn Y Selar.

Wnaeth Paul Jones a Mark Roberts dderbyn yr anrhydedd mewn gig arbennig yn Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth y noson cyn prif seremoni wobrwyo'r Selar. Yn y gig roedd pob un o'r bandiau - Mellt, Y Cledrau, HMS Morris, Alffa a Lewys - yn perfformio fersiwn eu hunain o un o glasuron Y Cyrff neu Catatonia.

Gydag albym newydd allan ar hyn o bryd a thaith fer ar ei hanner, mae Mark Roberts wedi ail-fentro i faes berfformio yn ddiweddar, ac yma mae'n sgwrsio gyda Cymru Fyw am y gorffennol, yr uchafbwyntiau, a'r presennol:

"Y Cyrff oedd fy mand cyntaf a dechreuon ni pan o'n ni'n ysgol [Dyffryn Conwy]... o'dd yn gr锚t achos am y gigs cynta' roedd llwythi o bobl o'r ysgol yn dod i weld ni... tan iddyn nhw sylweddoli bod ni'n methu chwara' ac wedyn oddan ni wedi gorfod dechrau o scratch!

"O'n i'n cael gwersi drymio yn yr ysgol gyda drymar gwreiddiol y Cyrff. Wel oedd o'n cael gwersi drymio ac yn cymryd o'n serious... o'n i jest yn mynd er mwyn osgoi double French! Wedyn roedd brawd best mate fi gyda gitar a wnaeth o ddysgu cwpwl o chords a dechrau ymarfer ychydig yn t欧'r drymar.

Pwy 'da chi'n 'nabod...

"Ar yr un pryd, roedd Tony Schiavone'n athro Daearyddiaeth i ni. Welodd o fi'n cerdded y coridorau'n gwisgo bathodyn The Clash, a wnaethon ni ddechrau siarad a meddyliais 'Waw, athro sy' mewn i'r Clash.'

"Dechreuodd y sgwrs fel'na, wedyn clywodd am y band a gofynnodd os oddan ni isho chwarae gig. A dyna fo... oddan ni ar ein ffordd. Oddan ni'n uffernol o lwcus, achos bod Tony'n trefnu gigs i'r Gymdeithas, wnaeth o roi leg up i ni yn sicr fel band.

"Oddan ni'n cael bod y band cyntaf ymlaen neu support i'r rhan fwyaf o'i gigs oedd yn bwysig i ni fel band achos roddodd o lot o gyfle i ni ddysgu beth oddan ni'n wneud, ac i fod yn onest, i mi ddysgu sut oedd chwara' offeryn!"

Felly yn sydyn dyma fab i gigydd o Lanrwst yn troi nid yn unig i fod yn aelod blaenllaw o un o'r bandiau Cymraeg gorau a mwyaf llwyddiannus, ond yn gyfansoddwr sydd dal yn cael ei ystyried yn gyfrifiol am rai o ganeuon gorau Cymru a'r byd Eingl-Americanaidd.

Oedd yna rywbeth yn y genes? Ddim o gwbl yn 么l Mark:

"Fi yw'r cynta' yn y teulu i chwara' offeryn hyd yn oed, felly dwi ddim yn gwybod o lle mae'r cyfansoddi wedi dod. Ond pan o'n i'n ifanc o'n i'n obsessed efo cerddoriaeth... gwrando ar y Top 40 pob wythnos, prynu albyms ar feinyl a gwrando o'r dechrau i'r diwedd ar bob c芒n a darllen y lyrics a'r nodiadau ar y cloriau, ac felly mae'n rhaid bod rhywbeth wedi rwbio off.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Catatonia: Band oedd yn sicr yn credu bod gofod personol yn bwysig

"Tua diwedd cyfnod Y Cyrff, oddan ni'n dechrau teimlo bod ni'n chwarae yn yr un llefydd dros Gymru, dro ar 么l tro, ac i ryw raddau i'r un bobl, a dechreuais i deimlo 'Hang on, ers pryd ma' ganddon ni residency yn yr Albert yn Caernarfon?'

Felly roedd hi'n bryd symud a newid. Clywais i Cerys yn canu mewn rhyw barti rhywle a dwi'n cofio meddwl 'Waw, ma' ganddi hi lais da' a dyna oedd dechrau Catatonia.

Ateb Cerys n么l mewn b**** French!

"Roedd llwyddiant Catatonia'n eitha ansicr yn y cychwyn. Oeddan ni wedi cael llwyddiant gyda'r Cyrff ar y dechrau gyda caneuon egn茂ol dwy funud, pync, ac wedyn yn trio mynd yn glyfar. Ac ar ddechrau Catatonia, roddan ni dal yn trio bod yn glyfar... rhy glyfar ella... Ti'mbod, sgrifennu caneuon efo fi'n ateb Cerys n么l mewn b**** French, a c**p fel'na!

"Ond gawson ni ein signio i major record label, ac ar yr albym cyntaf, roedd y caneuon i gyd wedi'u sgrifennu'n barod, ac er iddo werthu'n oc锚 - mwy o records na werthodd y Cyrff erioed - dywedodd y record companyfod oddim digon da. Roedden nhw 'di gwario lot o bres ar fideos, a doedd o 'jest ddim digon da'.

"Felly mi oedd 'na pressure, ac o'n ni'n teimlo os na fyddai'r ail albym yn llwyddo, yna dyna fo... fyddan nhw wedi droppio ni!

"Felly ro'dd hi'n fater o fynd back to basics a sgrifennu caneuon fyddai'n hits! A mi weithiodd, ond tasa unrhywun yn gofyn i mi beth oedd cyfrinach llwyddiant Catatonia, yna... ia, Cerys ydi un o'r resymau, ond hefyd y profiad o bron 芒 methu fyddai un arall. Y teimlad 'na o 'It's all over, back to the butcher's shop!'"

Felly cafodd Mark lwyddiant ysgubol, dros Gymru a wedyn y byd gyda'i ddau fand cyntaf, ond beth oedd y diwrnod o waith gorau a wnaeth erioed? Pa un o ganeuon Catatonia yw'r un sydd dal yn talu morgais y cyfansoddwr, flynyddoedd ers i'r band roi'r gorau iddi?

"Wel mae 'na gwpwl, ond mae enw Road Rage wastad tua top y statement PRS a dydi Mulder and Scully ddim yn rhy bell tu 么l weithiau. Ond y caneuon dwi'n hoff ohonyn nhw ydi'r rhai llai poblogaidd.

Yn fy amser fy hun

"Mae'r llwyddiant yn braf, ac mae'n braf rwan cael dechrau ar brosiect newydd a sgrifennu caneuon yn fy amser fy hyn, yn y ffordd dwi eisiau eu sgrifennu. O ran y cyfansoddi, dwi ddim yn teimlo dan gymaint o bwysau, ond dwi'n hoffi rhoi pwysau ar fy hun pan mae'r band yn perfformio'n fyw, achos ti isho fo fod yn dda - ti ddim isho fo i fod yn disasterous.

"Felly 'dan ni'n teithio gyda Mr. ar hyn o bryd a dwi'n edrych ymlaen at nos Wener, a chlywed beth mae bandiau eraill yn eu gwneud o ganeuon Y Cyrff a Catatonia. O gofio'r pressure oedd creu rhai o ganeuon Catatonia wedi ei achosi, fydd hi'n braf eistedd n么l, a jest gwrando!"