大象传媒

Statws bwyd gwarchodedig i Eirin Dinbych

  • Cyhoeddwyd
Eirin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mewn gerddi preifat yn unig mae Eirin Dinbych yn cael eu tyfu erbyn hyn

Mae Eirin Dinbych wedi derbyn statws bwyd gwarchodedig gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Y gred yw bod Eirin Dinbych wedi dechrau cael eu tyfu gan fynachod yn y 13eg ganrif, fyddai'n ei wneud yn h欧n nac eirin Fictoria, a'r unig eirin sy'n dod o Gymru.

Mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth am y ffrwyth, fe wnaeth Gr诺p Eirin Dinbych wneud cais am statws gwarchodedig daearyddol gan yr UE.

Dywedodd Peter Jones, cadeirydd Gr诺p Eirin Dinbych byddai "Dyffryn Clwyd i gyd yn elwa ar hyn".

'Blynyddoedd o waith'

Mae Cynllun yr UE yn cydnabod cynhyrchion bwyd a diod o ansawdd ac mae'n rhaid iddynt ragori ar feini prawf llym er mwyn bod yn gymwys i gael y statws.

Unwaith y mae cynhyrchion bwyd a diod wedi cael statws enw bwyd gwarchodedig o dan Gynllun yr UE, maent yn cael eu gwarchod ledled Ewrop rhag unrhyw ymgais i'w hefelychu neu eu camddefnyddio.

Bellach mae gan Eirin Dinbych yr un statws 芒 chig oen a chig eidion Cymreig, a Halen M么n.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Nia Williams o gr诺p Eirin Dinbych mae'r statws yn benllanw blynyddoedd o waith gan wirfoddolwyr yn ardal Dinbych

Dywedodd Nia Williams, ysgrifennydd Gr诺p Eirin Dinbych: "Mae hwn yn benllanw blynyddoedd o waith gan wirfoddolwyr yn ardal Dinbych i ddiogelu unig eirinen Cymru.

"Mae goblygiadau pellgyrhaeddol - nid yn unig o ran y bwyd ei sy'n cael ei gynhyrchu gyda'r eirin ond hefyd plannu coed yn yr holl ddyffryn, achos mae'n bwysig bod Dyffryn Clwyd i gyd yn elwa o hyn."

'Hyrwyddo ledled Ewrop'

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Dwi'n arbennig o falch bod Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd wedi cael yr anrhydedd o ennill statws enw bwyd gwarchodedig, a dwi'n gobeithio y bydd yn rhoi cryn hwb i fusnesau yn yr ardal.

"Gyda Brexit yn prysur agos谩u, rydyn ni'n benderfynol o gefnogi busnesau bwyd a diod Cymru ac o sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnyn nhw mewn marchnad lle mae'r amodau'n dipyn o her.

"Dylai'r teitl hwn, sy'n un mawr iawn ei fri, helpu i gryfhau enw Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd a chaniat谩u iddyn nhw hyrwyddo'r brand, nid dim ond yng Nghymru ei hun, ond ledled Ewrop ac ar draws marchnadoedd eraill hefyd," meddai.