大象传媒

Betsi Cadwaladr: 'Angen taclo problemau sylfaenol'

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr

Fe allai gwasanaethau iechyd yn y gogledd fod "yn y fantol" oni bai fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn taclo problemau sylfaenol a chynllunio ar gyfer y dyfodol, yn 么l cadeirydd y bwrdd.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael ei benodi bum mis yn 么l, dywedodd cyn-Brif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd, Mark Polin fod angen cynllun clir i drawsnewid patrwm gwasanaethau dros y blynyddoedd nesaf, os yw'r bwrdd am osgoi parhau yn gorff sy'n "gorwario a thanberfformio".

Mae'r bwrdd iechyd ar hyn o bryd yn ceisio llunio cynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Yn 么l dogfen ddrafft, mae'r drefn bresennol yn "aneffeithiol, anfforddiadwy ac anghynaladwy".

Mesurau arbennig

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar wasanaethau arbenigol a gwella'r gwasanaethau cymunedol i helpu meddygfeydd lleol.

"Dydy'r status quo ddim yn opsiwn," meddai Mr Polin.

"Rydan ni'n tanberfformio ac yn gorwario ar yr arian rydym yn ei gael gan Lywodraeth Cymru.

"All y ddau beth yn ddim parhau. Mae'n rhaid i ni fod yn glir yngl欧n 芒 sut i ddarparu gwasanaethau i'r dyfodol ac yn fy marn i bydd angen newid."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Mark Polin ei benodi'n gadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dilyn ei ymddeoliad fel Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd

Mae chwe blynedd ers adroddiad beirniadol ar y modd roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei redeg.

Bedair blynedd yn 么l fe gafodd y corff ei osod mewn mesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru - sy'n golygu'r lefel uchaf o oruchwyliaeth.

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth y bydd y statws yn parhau am y tro.

Mae Mr Polin, wnaeth ymddeol o Heddlu'r Gogledd y llynedd, yn teimlo bod penderfyniadau caled a thrafodaethau anodd i ddod.

Heriau

Ychwanegodd: "Mi fydd rhaid i ni fod yn gadarn ar adegau, a bydd rhaid i ni wynebu sgyrsiau anodd a beirniadaeth bosib.

"Pe taswn i yn Llywodraeth Cymru, fuaswn i ddim yn tynnu'r mesurau arbennig oddi ar y bwrdd achos dydy rhai o'r pethau sylfaenol ddim yn eu lle.

"Nid beirniadaeth ydy hynny, ond ffaith."

Ymysg yr heriau sy'n wynebu'r Bwrdd Iechyd mae:

  • Cynnydd yn y galw - cleifion yn wynebu oedi hir mewn unedau gofal brys ac argyfwng & rhestrau aros hir ar gyfer llawdriniaethau llygaid, clun a phen-glin

  • Prinder gwelyau - 90% o welyau'r Bwrdd yn llawn gan amlaf, sy'n medru arwain at brinder gwelyau a pherygl i heintiau ledu

  • Staffio - Trafferthion cynyddol wrth geisio denu meddygon teulu a staff arbenigol eraill & 拢1m yn cael ei wario bob mis ar gyflogi nyrsys cyflenwi

  • Cyllid - gallai'r diffyg yn y gyllideb fod cymaint 芒 拢42m erbyn diwedd mis Mawrth, sy'n gynnydd ar y llynedd

  • Adeiladau - mae llawer o'r 130 o adeiladau yn hen, aneffeithiol neu anniogel

Yn y gorffennol, mae'r bwrdd wedi wynebu gwrthwynebiad chwyrn wrth geisio cyflwyno rhai newidiadau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Theresa Owen yw Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus

Yn 么l Theresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus bydd rhaid i'r bwrdd gyfathrebu'n well y tro yma.

"Dwi'n meddwl fod rhaid i ni fod yn glir efo'n trafodaethau ni, ymgysylltu'n well a gwneud yn si诺r bod llais y person clinigol yn dod drwodd," meddai.

"A dwi'n meddwl os fedrwn ni ddod a gyd o'r rheina at ei gilydd, mi fedrwn ni symud ymlaen.

"Mae pethau yn altro, mae 'na wasanaethau yn gwella. Ond wrth gwrs, be' sy'n rhaid i ni wneud ydy symud hynny ymlaen yn gyflymach ac mae gennym ni dal heriau o'n blaenau ni.

"Mae'n rhaid i rai pethau newid."