National Grid yn dod 芒 chynllun peilonau M么n i ben

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwmni National Grid wedi cadarnhau fod y cais ar gyfer Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru wedi cael ei dynnu 'nol.

Nid oedd y cyhoeddiad yn syndod yn dilyn y newyddion ym mis Ionawr fod datblygwyr atomfa Wylfa Newydd ar Ynys M么n wedi atal yr holl waith ar y cynllun.

Mewn datganiad, dywedodd y National Grid bod cwmni P诺er Niwclear Horizon wedi dweud nad oes angen y cysylltiad arnynt bellach, ac felly wedi dod 芒'r cytundeb i ben.

O ganlyniad mae'r cais am gysylltiad trydan newydd ar hyd Ynys M么n a gogledd Gwynedd wedi cael ei dynnu 'nol.

Ond ychwanegodd y datganiad y bydden nhw'n "cydweithio'n agos" gyda Horizon neu unrhyw ddatblygwr arall er mwyn sicrhau bod yno "gysylltiad trydan cryf a diogel" yn yr ardal.

Mae'r cynlluniau wedi wynebu gwrthwynebiad chwyrn gan rai o drigolion yr ynys, gan gynnwys y cyngor sir oedd o blaid gosod system danddaearol.

Bydd y Grid Cenedlaethol nawr yn ysgrifennu at berchnogion tir fydd yn cael eu heffeithio er mwyn esbonio be mae'r penderfyniad yn ei olygu iddyn nhw.