'Figaniaid yn fygythiad i'r diwydiant ffermio'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ffermwyr Cymreig yn poeni bod ymgyrchwyr figan yn defnyddio celwyddau i gamarwain y cyhoedd a phardduo eu diwydiant.
Dyna farn Gareth Wyn Jones, cyflwynydd a ffermwr mynydd o Lanfairfechan, sy'n ystyried figaniaeth eithafol yn fygythiad.
"Mae siopau cigyddion yn cael eu targedu; mae ffermwyr wedi cael death threats," meddai wrth raglen Manylu 大象传媒 Radio Cymru.
"Nid peth bach ydy hyn. Mae'n rhaid i ni gael balans.
"Ac mae'n rhaid i ni ddweud y gwir wrth y genhedlaeth nesa', fel eu bod nhw'n gallu gwneud penderfyniadau drostyn nhw'u hunain."
Figaniaeth ar dwf
Mae mwy o figaniaid nag erioed yng Nghymru, gyda 30,000 yn ymatal rhag bwyta cig, pysgod nac unrhyw gynnyrch anifeiliaid, yn 么l y Gymdeithas Figan.
Mae hynny bedair gwaith yn uwch na'r nifer yn 2014.
Fe benderfynodd Dewi Erwan, myfyriwr ar ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Durham, droi'n figan yn fuan ar 么l gadael adref.
"Pan es i i'r brifysgol roeddwn i'n ymwybodol bod nifer o'r problemau 'da ni'n wynebu oherwydd newid hinsawdd a cholli cynefin anifeiliaid yn deillio o'r ffaith bod 'na gymaint o bobl yn y byd, yn defnyddio cymaint o adnoddau," meddai.
"Roedd nifer o'r myfyrwyr wedi penderfynu bod yn llysieuwyr neu'n figaniaid, ac un o'u dadleuon yn erbyn bwyta cig oedd bod tyfu planhigion ar y cyfan yn ffordd fwy effeithlon o gynhyrchu bwyd.
"Mae rhyw draean o'r holl gnydau'r byd yn cael eu defnyddio i fwydo anifeiliaid, ond mae hynny'n golygu bod llai o dir ar gael ei dyfu bwyd ar gyfer pobl."
Ond mae Mr Jones yn flin bod rhai figaniaid yn camarwain y cyhoedd drwy gyhoeddi lluniau o anifeiliaid yn dioddef ar y we.
Er nad yw'r Gymdeithas Figan yn cymeradwyo rhoi lluniau o anifeiliaid yn dioddef ar-lein, maen nhw'n annog mwy o bobol i droi'n figaniaid - cam y mae rhai'n poeni gallai achosi niwed i ffermwyr mynydd.
Amaethyddiaeth sy'n gyfrifol am 4% o gyflogaeth Cymru - cyfran uwch na gweddill Prydain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2018
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2017