'Disgyblion yn darllen llyfrau anoddach na gweddill y DU'
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion yng Nghymru yn darllen llyfrau anoddach i gymharu 芒 gweddill y Deyrnas Unedig, yn 么l arolwg newydd.
Yn 么l Renaissance, sy'n gyfrifol am yr adroddiad, er bod disgyblion Cymreig yn darllen deunydd anoddach mae eu sgiliau darllen a deall ychydig yn wannach o'i gymharu 芒'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Fe wnaeth yr arolwg ddadansoddi tueddiadau darllen 19,791 disgybl yng Nghymru - a dros 1 miliwn ar hyd gweddill y DU.
Dywedodd Renaissance fod Cymru "ar y trywydd iawn ond fod yna dal lle i wella".
Darllen annibynnol
Mae'r adroddiad yn awgrymu y dylai athrawon cynradd dderbyn mwy o hyfforddiant er mwyn gallu hyrwyddo darllen annibynnol ymysg plant ifanc.
Yn 么l Dr Keith Topping, er ei bod hi'n bwysig i greu diwylliant o ddarllen mewn ysgolion, mae angen gwneud mwy na phennu amser arbennig ar gyfer darllen.
Dywedodd: "Dylai athrawon annog trafodaethau bywiog am ffuglen yn y dosbarth gan roi cyfle i blant rannu eu syniadau... ac wrth gwrs mae hi'n hanfodol fod plant yn cael eu hannog i ddarllen tu allan i'r ysgol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2014