Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyffuriau'n 'bla' ar gymunedau gogledd Cymru
Mae delwyr cyffuriau yn parhau'n "bla" sy'n achos "dioddefaint" i gymunedau'r gogledd, yn 么l cyn-bennaeth heddlu.
Daw sylw Clive Wolfendale, sydd bellach yn rhedeg elusen wrthgyffuriau, wedi i arweinydd giang cyffuriau ddechrau dedfryd o 10 mlynedd dan glo.
Roedd Aled Gray, 35 oed o Gaergybi, ymysg 27 o bobl gafodd eu carcharu wedi i Heddlu Gogledd Cymru feddiannu ar gwerth 拢2.7m o gyffuriau gan dargedu dau griw.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod Ymgyrch Zeus yn "gam mawr" ymlaen ond bod y frwydr yn erbyn delwyr cyffuriau yn parhau.
Dywedodd Mr Wolfendale, prif weithredwr elusen gwnsela cyffuriau ac alcohol CAIS, nad oes "unrhyw ddatrysiad hawdd neu sydyn".
"Mae'n hollbwysig bod y rheiny sy'n cymryd mantais o bobl sy'n gaeth i gyffuriau yn cael eu herlyn, gyda grym llawn y gyfraith," meddai cyn-ddirprwy brif gwnstabl Heddlu'r Gogledd.
"Dylen nhw orfod talu am yr hyn maen nhw wedi'i wneud. Maen nhw'n parhau'n bla ar unigolion a chymunedau yng ngogledd Cymru."
Dywedodd Mr Wolfendale bod gorfodaeth yr heddlu yn "gweithio orau ochr yn ochr 芒 rhaglenni triniaeth ac addysg sydd 芒'r nod o droi pobl fregus i ffwrdd o gamddefnyddio".
'Ar flaen y gad'
Fe wnaeth Gray, sy'n berchen ar ddwy dafarn yng Nghaergybi, gyfaddef yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lee Boycott, wnaeth arwain Ymgyrch Zeus, bod rhai aelodau o'r gr诺p wedi bod ar waith ers Hydref 2015.
Dan arweiniad Gray a Matthew Jones, daeth dau gr诺p o droseddwyr cyfundrefnol o Gaergybi a Llandudno at ei gilydd i greu consortiwm i brynu a chyflenwi cyffuriau.
Roedd y gr诺p yn prynu coc锚n, heroin a chanabis o Lerpwl a Manceinion a'u gwerthu mewn cymunedau yn Ninbych, Conwy a M么n.
Dywedodd pennaeth uned achosion cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru, Iwan Jenkins: "Yn amlwg ni fydd yr achos unigol yma yn cael gwared ar broblemau cyffuriau'r ardal, ond mae'n gam mawr yn y cyfeiriad cywir.
"Fe fyddwn yn sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru ar flaen y gad yn y frwydr honno."
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Boycott: "Mae cyffuriau'n achosi dioddefaint yn ein cymdeithas a llygredd yn y gymdeithas, ac fe fyddan nhw wastad yn flaenoriaeth i'r heddlu."