大象传媒

Elidyr Glyn yn ennill C芒n i Gymru 2019

  • Cyhoeddwyd
Elidyr GlynFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elidyr Glyn hefyd yn adnabyddus fel prif leisydd y band Bwncath

Elidyr Glyn yw enillydd C芒n i Gymru 2019 nos Wener gyda'r g芒n Fel Hyn 'da Ni Fod.

Dyw'r enillydd ddim yn wyneb anghyfarwydd i'r sin gerddoriaeth Gymraeg, ag yntau yn aelod o fand Bwncath ac yn perfformio'n gyson.

Cafodd Fel Hyn 'da Ni Fod ei chyfansoddi a'i pherfformio gan Elidyr, sy'n wreiddiol o Lanllyfni.

Dywedodd Elidyr ei bod hi wedi bod yn "brofiad arbennig iawn bod yn rhan o'r gystadleuaeth eleni."

'Wrth fy modd'

Cafodd y noson ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth eleni, gyda'r cyflwynwyr Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn diddanu'r dorf.

Bydd Elidyr nawr yn derbyn gwobr o 拢5,000, a bydd yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn yr 糯yl Ban-Geltaidd yn Iwerddon ym mis Ebrill.

Pleidlais y cyhoedd oedd yn gyfrifol am benderfynu pwy oedd yr enillydd, ar 么l i'r cystadleuwyr ennill eu lle ar 么l plesio panel o arbenigwyr.

Y beirniaid eleni oedd Kizzy Crawford, Geraint Lovgreen, Non Parry a Ryland Teifi.

Gawn Ni Weld Sut Eith Hi gan Rhydian Meilyr oedd yn ail yn y gystadleuaeth, gan ennill gwobr o 拢2,000.

Yn y trydydd safle ac yn derbyn gwobr o 拢1,000 oedd Dyfrig Evans gyda'r gan LOL.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elidyr Glyn oedd enillydd cyntaf Tlws Alun Sbardun Huws yn 2016

Dywedodd Elidyr: "Dwi wedi cael cefnogaeth wych gan deulu a ffrindiau a deithiodd lawr i Aberystwyth i fod yma efo fi heno.

"Diolch iddyn nhw i gyd ac i bawb wnaeth bleidleisio hefyd. Dwi wrth fy modd."

50 mlynedd o C芒n i Gymru

Mae 2019 yn nodi hanner can mlynedd ers y gystadleuaeth gyntaf yn 1969, pan fu Margaret Williams yn fuddugol.

Ers hynny, mae rhai o enwau fwyaf adnabyddus Cymru wedi cyrraedd y brig fel Bryn F么n, Huw Chiswell, a chyflwynydd y gystadleuaeth, Elin Fflur.