大象传媒

Mamolaeth Cwm Taf: 'Prinder staff a diwylliant o feio'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Brenhinol MorgannwgFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhybuddiodd arolygwyr am broblemau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae manylion pellach wedi dod i'r amlwg yngl欧n 芒 maint y problemau sydd wedi effeithio gwasanaethau mamolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf.

Yn dilyn ymweliad 芒 wardiau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ym mis Hydref, rhybuddiodd arolygwyr bod risg y gallai'r problemau beryglu mamau a babanod.

Cododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) bryderon am brinder staff "difrifol" - ddyddiau'n unig ar 么l i reolwyr y bwrdd gyhoeddi ymchwiliad i'r gofal gafodd 26 o fabanod a fu farw.

Dywedodd y bwrdd iechyd bod camau i leddfu pryderon wedi eu cymryd, gan gynnwys gwella trefniadau rota a chynnig mwy o gefnogaeth i staff dan hyfforddiant.

Cafodd yr arolwg ei gynnal llai na phythefnos ar 么l i'r bwrdd iechyd gadarnhau eu bod yn ymchwilio i ddwsinau o achosion lle roedd problem yng ngofal mamau a babanod newydd-anedig, dros gyfnod o ddwy flynedd.

Ymhlith y problemau penodol gafodd eu hamlygu yn adroddiad AGIC:

  • Shifftiau staff mamolaeth yn gyson yn brin o staff;

  • Staff yn gorfod gweithio oriau estynedig er mwyn llenwi bylchau - a'r risg y gallai blinder effeithio ar eu penderfyniadau;

  • Staff yn cael eu trosglwyddo o wasanaethau cymunedol i lenwi bylchau yn yr ysbyty;

  • Hyfforddiant gofynnol, adolygiadau ac arolygiadau ddim yn cael eu cyflawni oherwydd diffyg amser neu bod staff yn gorfod blaenoriaethu gofal cleifion;

  • Cyfarpar brys a chyffuriau ddim yn cael eu gwirio'n rheolaidd.

'Diwylliant o feio'

O ganlyniad i ddifrifoldeb nifer o'r pryderon, anfonodd AGIC lythyr brys i Gwm Taf yn galw am welliannau o fewn wythnos.

Rhybuddiodd yr arolygiaeth fod 'na bosibilrwydd y gallai mamau a babanod gael eu peryglu oni bai fod y problemau'n cael eu datrys.

Yn ogystal 芒 phryderon am ddiffyg staff, daeth yr arolygwyr o hyd i wendidau o ran cyfathrebu, diwylliant ac arweinyddiaeth yn yr adran - gyda staff yn teimlo nad oedd unrhyw un yn gwrando ar eu pryderon.

Roedd 'na ddiffyg ffydd amlwg mewn uwch reolwyr a rhai yn cwyno am ddiwylliant o feio yn yr adran.

Ond pwysleisiodd yr arolwg fod staff ar y cyfan yn ceisio'u gorau mewn amgylchiadau anodd, a bod cleifion ar y cyfan yn gwerthfawrogi'r gofal.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Vaughan Gething fod y bwrdd iechyd wedi cytuno i gyflwyno amryw o newidiadau er mwyn diogelu cleifion

Yn ogystal ag ymchwiliad mewnol y bwrdd iechyd, cafodd adolygiad annibynnol i wasanaethau mamolaeth Cwm Taf ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r adolygiad hwnnw yn parhau dan arweinyddiaeth Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd.

Ym mis Ionawr yn ystod ymweliad 芒'r bwrdd iechyd fe alwodd arolygwyr am welliannau brys i fynd i'r afael 芒 gwendidau penodol diogelu mamau a babanod.

Diogelu mamau a babanod

Datgelodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ar y pryd fod y bwrdd iechyd wedi cytuno i weithredu amryw o newidiadau ar unwaith er mwyn diogelu mamau a babanod.

Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gall 大象传媒 Cymru ddatgelu manylion pellach am y newidiadau:

  • Sicrhau fod meddyg ymgynghorol ar gael o fewn 20 munud i oruchwylio yn y ward enedigaeth;

  • Rhoi mwy o gefnogaeth i feddygon iau a bydwragedd newydd;

  • Mynd i'r afael 芒'r defnydd uchel o feddygon dros dro (locwm).

Roedd yr ohebiaeth hefyd yn cynnwys datganiad mewnol gan brif weithredwr y bwrdd iechyd yn ymddiheuro wedi pryderon fod penaethiaid wedi methu a gwrando arnyn nhw.

Dywedodd Alison Williams yn y datganiad mewnol: "Mae hynny yn amlwg yn annerbyniol, ac o ganlyniad mae'n wirioneddol ddrwg gen i."

Mae disgwyl i'r adolygiad annibynnol gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynaecolegwyr, a Choleg Brenhinol y Bydwragedd gael ei gyhoeddi yn fuan.

Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi cyflwyno newidiadau sylweddol i'r ffordd mae gofal i famau a babanod yn cael ei ddarparu yn yr ardal - gyda gwasanaethau i rai sydd angen gofal wedi ei arwain gan feddygon ar un safle - Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Wrth ymateb, dywedodd Ms Williams bod y bwrdd iechyd yn cymryd cyfrifoldebau tuag at gleifion yn "ddifrifol iawn ac yn benderfynol o wneud popeth sy'n bosib i sicrhau gwasanaeth mamolaeth o safon uchel sy'n cynnig gofal diogel ac effeithiol".

Aeth ymlaen i ddweud bod y bwrdd iechyd wedi cymryd camau i fynd i'r afael 芒 phryderon brys arolwg AGIC, a chanfyddiadau cychwynnol yr adolygiad annibynnol.

Ychwanegodd ei bod yn deall y gallai'r materion fod yn achos pryder, ac y dylai unrhyw un sydd 芒 phryderon gysylltu gyda'r bwrdd iechyd.