大象传媒

Gwrthod cytundeb Brexit Llywodaraeth May o 391 i 242

  • Cyhoeddwyd
Theresa MayFfynhonnell y llun, HOC

Mae Llywodraeth Theresa May wedi colli pleidlais dyngedfennol ar ei chytundeb Brexit.

Fe wnaeth aelodau seneddol yn Nh欧'r Cyffredin wrthod y cytundeb o 391 i 242 - mwyafrif o 149 yn erbyn.

Dywedodd Mrs May y bydd pleidlais nawr yn cael ei chynnal yfory ar y cwestiwn "a ddylid gadael yr UE heb gytundeb". Bydd hon yn bleidlais rydd i Aelodau Seneddol Ceidwadol.

Ychwanegodd ei bod hi'n annog Aelodau Seneddol i bleidleisio yn erbyn gadael heb gytundeb.

'Dewisiadau annifyr'

Yn dilyn y bleidlais, dywedodd y prif weinidog "nad yw'r bleidlais wedi datrys y broblem".

"Mae'n rhaid i ni benderfynu a ydym am ddileu Erthygl 50, am adael heb gytundeb neu gyda chytundeb ond ddim y cytundeb hwn," meddai.

"Rhain yw'r dewisiadau annifyr sy'n ein hwynebu," meddai.

Cyn y bleidlais roedd Mrs May wedi dadlau ei bod wedi sicrhau consesiynau pwysig gan yr Undeb Ewropeaidd a mai hwn oedd y cytundeb gorau phosib er mwyn gadael yr UE.

Nos Lun yn Strasbourg fe wnaeth Mrs May ofyn am fwy o gonsesiynau ar 么l i'w chytundeb gwreiddiol gael ei wrthod gan D欧'r Cyffredin ym mis Ionawr.

Dywedodd y Twrnai Cyffredinol, Geoffrey Cox, fore Mawrth fod "risg cyfreithiol yn parhau" ar 么l y newidiadau ac mewn rhai amgylchiadau na fyddai dull cyfreithlon o adael y backstop heb ganiat芒d yr UE.

Y backstop yw'r broses gafodd ei chytuno yn wreiddiol er mwyn sicrhau na fydd ffin galed yn Iwerddon os nad oedd cytundeb fasnach gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Yn gynharach yn y dydd roedd y DUP a gr诺p dylanwadol o fewn y blaid Geidwadol - yr ERG - wedi cyhoeddi eu bwriad i wrthwynebu'r cytundeb.

Fe wnaeth AS Aberconwy, y Ceidwadwr Guto Bebb, feirniadu rhan yr ERG yn yr holl broses, gan gyhuddo'r gr诺p o "osod gormod o feini prawf nad oedd bosib eu cyflawni".

Yngl欧n 芒 dyfodol Mrs May a'r posibilrwydd o hi'n ymddiswyddo, dywedodd Mr Bebb: "Pe bai hi eisiau aros ymlaen yna fe fyddai modd iddi wneud hynny."

Beth nesaf?

Mae pleidlais arall wedi ei addo ar gyfer yfory ar y cwestiwn "a ddylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb?".

Pe bai T欧'r Cyffredin yn gwrthod gadael heb gytundeb yna fe allai Aelodau Seneddol gael pleidlais ddydd Iau ar oedi proses Brexit am gyfnod.

Yn ymateb i ganlyniad y bleidlais, mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi mynnu bod angen "cael gwared ar y bygythiad o adael heb gytundeb, ac ymestyn Erthygl 50".

Dywedodd ar Twitter nos Fawrth: "Nid oedd y canlyniad hwn yn anochel. Ar fater mor arwyddocaol, dylai'r prif weinidog fod wedi mynd ati i greu consensws o'r dechrau un.

"Yn hytrach, roedd yn gaeth i'w llinellau coch disynnwyr. Mae hi wedi canu ar fargen y prif weinidog bellach.

"Mae'n amser cael gwared ar y bygythiad o adael heb gytundeb, ac ymestyn Erthygl 50."

Fe wnaeth arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts ddweud mai'r unig fodd i ddatrys y broblem oedd cynnal refferendwm arall.

"Mae'n rhaid i'r prif weinidog dderbyn nawr fod y Senedd wedi gwrthod ei chytundeb amhoblogaidd, felly mae'n amser i ofyn i'r cyhoedd," meddai.

"Dyw e hi ond yn iawn fod pobl yn cael y gair terfynol ar unrhyw gytundeb."