大象传媒

Ymosodiadau ar staff iechyd wedi haneru yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Matt Jarvis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l un rheolwr ward iechyd meddwl, mae angen "ceisio deall y claf yn y lle cyntaf"

Mae ymosodiadau ar staff y gwasanaeth iechyd gan gleifion sy'n dioddef problemau iechyd meddwl yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi haneru mewn cyfnod o bum mlynedd.

Fe wnaeth nifer yr ymosodiadau ostwng o 559 yn 2013-14, i 278 yn 2017-18.

Yn 么l yr awdurdodau, mae hyn yn rhannol oherwydd t卯m newydd o nyrsys arbenigol sy'n hyfforddi staff rheng flaen mewn dulliau o osgoi sefyllfaoedd anodd ac i wella gofal.

Dywedodd Matt Jarvis, rheolwr ward, fod ymyrraeth gorfforol yn aml yn gallu gwneud pobl yn amheus o staff.

Yn hytrach, dywedodd Mr Jarvis y bydd staff ar wardiau yn ceisio siarad a llonyddu cleifion, neu hyd yn oed symud eu sylw at bwnc arall.

Mae staff, fodd bynnag, hefyd yn derbyn hyfforddiant yngl欧n 芒 sut i ymyrryd yn gorfforol, rhywbeth fydd yn digwydd pan mae technegau eraill wedi methu.

Dywedodd Mr Jarvis, wnaeth ddioddef ymosodiad gan glaf a phroblemau iechyd meddwl: "Mae angen i ni sicrhau ein bod yn ceisio deall y claf yn y lle cyntaf.

"Pan mae pobl yn dod am y tro cyntaf i'r uned iechyd meddwl, mae'n bosib fod nhw'n ofn ac wedi dychryn."

"Mae staff yn ceisio creu perthynas gyda chleifion a chael nhw i ymddiried ynddynt, yn ogystal 芒 rhoi digon o le ac amser iddynt pe bai angen, er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd angen ymyrryd yn gorfforol. "

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae staff yn cael eu hyfforddi i fod yn ofalus wrth ymyrryd yn gorfforol

Ar 么l cwymp mawr yn y nifer o ymosodiadau yn 2014-15, fe wnaeth y ffigyrau aros yn weddol gyson tan fod yna ostyngiad o 331 yn 2016-17 i 278 yn 2017-18.

Dywedodd llefarydd ar ran Betsi Cadwaladr mai dim ond nifer bychan o ddarparwyr iechyd yn y DU oedd yn cyflogi t卯m o'r fath yma ar delerau llawn amser.

Yn y pedair blynedd i 2017 fe wnaeth nifer yr ymosodiadau tebyg gynyddu 25% ledled y DU.

Dywedodd Gareth Owen, sy'n arwain y t卯m o bedwar yn Betsi Cadwaladr: "Y mwy rydym yn ei ddeall ac yn cwrdd ag anghenion ein cleifion, yna bydd y canlyniadau yn rhai gwell.

"Rydym yn benderfynol o adeiladu ar y cynnydd sydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf, oherwydd mae un ymosodiad ar aelod o staff yn un yn ormod."