Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Disgyblion yn gwrthod gwisgo trwynau coch Comic Relief
Mae disgyblion ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi penderfynu peidio gwisgo trwynau coch ar ddiwrnod Comic Relief mewn ymdrech i leihau'r defnydd o blastig.
Yn hytrach, bydd disgyblion Ysgol Gynradd Treganna yn paentio eu trwynau yn goch.
Yn 么l rhai o'r disgyblion, maen nhw wedi bod yn cael gwersi ar newid hinsawdd ac effaith plastig ar anifeiliaid y m么r ac felly wedi teimlo'r angen i weithredu.
Dywedodd llefarydd ar ran Comic Relief eu bod yn falch o weld yr ysgol yn parhau i gefnogi'r diwrnod, a'u bod yn chwilio am ddewisiadau eraill ar gyfer y trwynau coch yn y dyfodol.
Mae Emi a Mia o Ysgol Gynradd Treganna wedi derbyn cefnogaeth eu cyd-ddisgyblion a'r staff ar gyfer y paentio.
Dywedodd Mia: "Fe wnes i ysgrifennu llythyr at yr ysgol yn awgrymu i ni beidio 芒 gwisgo'r trwynau coch ar y diwrnod, a phaentio ein trwynau yn lle.
"'Dwi'n meddwl ei fod yn syniad da achos dyw e ddim yn dda i ddefnyddio plastig achos mae'n mynd i'r m么r ac yn niweidio anifeiliaid."
Deiseb yn erbyn y trwynau coch
Ychwanegodd Bethan, sydd hefyd yn ddisgybl yn yr ysgol: "Does dim llawer o ddefnydd i'r trwyn coch fel tegan. Mae e jest yn cael ei wisgo un diwrnod o'r flwyddyn.
"Dwi ddim yn meddwl bod chi'n mynd i gerdded rownd yn gwisgo trwyn coch bob dydd!"
Mae deiseb ar wah芒n wedi dechrau ar-lein yn galw ar roi stop i werthiant y trwynau coch, gan annog y 大象传媒 a Comic Relief i fod "ar flaen y gad o ran newid agweddau am blastig".
Mae'r 大象传媒 wedi derbyn cais am ymateb.