Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwrthod t芒l atal tagfeydd yng Nghaerdydd yn 'siomedig'
Mae penderfyniad Cyngor Caerdydd i beidio 芒 gosod t芒l atal tagfeydd yn y brif ddinas yn "siomedig", yn 么l Awyr Iach Cymru.
Roedd y cyngor yn ystyried cyflwyno'r t芒l fel rhan o gynllun 拢32m i leihau llygredd awyr a chyrraedd targedau amgylcheddol.
Mae'r awdurdod bellach o'r farn y byddai cyflwyno'r tal yn cosbi perchnogion ceir h欧n ac yn symud y broblem i rannau eraill o'r ddinas.
Dywedodd Joseph Carter, cadeirydd Awyr Iach Cymru: "Rydyn ni'n gobeithio gweld y cyngor yn gwyrdroi'r penderfyniad er mwyn amddiffyn y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y llygredd."
Ymysg y cynlluniau eraill sydd yn cael eu hystyried gan y cyngor mae:
- Cynyddu nifer y bysiau yng nghanol y ddinas;
- Cyflwyno mwy o lonydd seiclo;
- Cynyddu nifer y bysiau trydan.
Bydd trwydded tacsi ond yn cael eu rhoi i gerbydau sy'n cyrraedd safonau allyriadau Euro 6 ac mae'r awdurdod yn bwriadu rhoi 拢4.5m tuag osod terfynau cyflymder o 20mya newydd ar hyd y ddinas.
'Ardal awyr glan yn hanfodol'
Ychwanegodd Mr Carter: "Mae penderfyniad Cyngor Caerdydd yn siomedig... mae gosod t芒l atal tagfeydd mewn dinasoedd yn un o'r dulliau fwyaf effeithiol o leihau allyriadau cerbydau.
"Credwn fod cyflwyno ardal awyr glan yn hanfodol os ydyn ni am daclo'r lefelau llygredd peryglus ar hyd y ddinas."
Ychwanegodd: "Er ein bod ni'n croesawu cynlluniau eraill y cyngor, mae'r ffocws ar derfynau cyfreithiol yn dangos diffyg uchelgais."
Yn 么l y Cynghorydd Caro Wild, aelod o'r cabinet ar gyfer trafnidiaeth, mae Caerdydd "o fewn y terfynau cyfreithiol ar hyd y ddinas, ond y glanaf yw'r aer y gorau fydd hi i bawb".