Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ficer yng Nghonwy yn gofyn am atal clychau sy'n 'tarfu'
Fe allai clychau eglwys yng Nghonwy gael eu diffodd yn y nos yn dilyn cwyn gan ficer yr eglwys ei hun.
Mae'r Parchedig David Parry wedi ysgrifennu llythyr at Gyngor Tref Conwy yn dweud bod y gloch ar d诺r Eglwys y Santes Fair, sy'n canu bob chwarter awr, yn ei gadw'n effro.
Dywedodd hefyd ei fod yn poeni y gallai'r clychau fod yn tarfu ar ymwelwyr mewn gwestai neu gartrefi cyfagos hefyd.
Bellach mae Cyngor Tref Conwy yn gofyn i bobl eraill sy'n byw o fewn y dref hynafol am eu barn nhw.
Rhan o gymeriad y dref?
Wrth siarad gyda 大象传媒 Cymru, dywedodd y Parchedig David Parry nad yw'n awgrymu y "dylen ni ddiffodd clychau'r cloc yn ystod y dydd, dim ond gofyn a oes modd iddyn nhw fod yn dawel yn y nos."
"Mae'n beth da bod cyngor y dref yn gofyn am farn pobl eraill am y peth - fe allai fod ymwelwyr mewn gwestai neu gartrefi cyfagos sydd wedi colli cwsg oherwydd y clychau."
Ond tra'n cydnabod ei fod wedi codi'r mater, pwysleisiodd nad oedd wedi gwneud cwyn swyddogol o dan y ddeddf aflonyddu sain.
Mewn llythyr at drigolion mae'r cyngor yn gofyn am farn trigolion ar atal canu'r clychau rhwng 00:15 a 06:15.
Mae'n dweud: "Mae aelod o'r gymuned wedi tynnu'n sylw ni at glychau cloc Eglwys y Santes Fair a'r posibilrwydd y gallai fod yn tarfu ar fywydau trigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr.
"Pwrpas yr holiadur hwn ydy holi a ydy'r gloch yn canu yn rhan o gymeriad a thraddodiad y dref, neu yn ddiflas a diangen."
Yn y cyfamser, mewn sgwrs ar un o dudalennau cymuned Conwy ar Facebook, roedd y mwyafrif o sylwadau sydd wedi eu gadael o blaid cadw'r clychau.
Dywedodd un aelod: "Roedd y clychau yna ymhell cyn y ficer, felly gadewch nhw i fod... maen nhw'n rhan o'r dref."