Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Y band Alffa
Sion Land a Dion Jones o'r band Alffa sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddyn nhw gael eu henwebu gan Mabli Tudur yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Sion: Un o'n atgofion cyntaf yw Dad yn chwarae Stairway to Heaven wrth ddreifio rownd Caernarfon mewn Rover 25.
Dion: Ermmm ddim yn cofio yn dda iawn...
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
S: Yr hogan oddi ar gyfres gynta' Sarah Jane Adventures (rhyw raglen spin-offDoctor Who oedd ar C大象传媒).
D: Neb rili yn sefyll allan sori - haha.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
S: Pi-pi'n drwsus pan o'n i'n Blwyddyn 2.
D: Fy mhrif git芒r yn torri mewn gig yng The Moon Club yng Nghaerdydd, a gorfod menthyg un gan un o'r bandiau cynt.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
S: Cwpwl o wythnosa'n n么l pam nesh i agor ap bancio Santander ar 么l noson allan.
D: Yn gwylio rhaglen newydd Ricky Gervais ar Netflix. O'dd o i fod yn raglen ddoniol, ond am ryw reswm o'n 'ni gweld rhywbeth reit sensitif ynddo.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
S: Snacio gormod.
D: Yn lle codi fy sbectol efo fy mysedd, o'n i'n gwasgu nhrwyn. Felly o'n i'n edrach yn flin ar bobl ond codi fy sbectol o'n i.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
S: Llanrug a'r ardal o gwmpas. Does nunlla gwell nag adra.
D: Caerdydd - Clwb Ifor Bach.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
S: Dwi 'di ca'l lot o nosweithia' 'swn i'n cysidro fatha'r rhai gora' erioed. Ma'r noson pryd 'natho ni guro Brwydr y Bandiau yn un o'r nosweithia' gora', er bo' fi'm yn cofio llawar. Fysa nosweithia' canlyniadau TGAU a Lefel A yn gwneud yr highlight reel o nosweithia' gwych hefyd.
D: Y gig yng Nghlwb Ifor pryd 'natho ni werthu y lle allan a chwarae i dorf anhygoel. Hefyd, gwylio Jack White gyda Sion yn Lerpwl. A gwylio Demob Happy ym Manceinion gyda fy nghariad. Sori - methu dewis rhwng y tri!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
S: Direidus, cerddorol, 'bach o grinc ar adegau!
D: Cerddorol, moody, penderfynol.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
S: Fy ffilm gorau yw Pulp Fiction. Ma' jyst yn anhygoel.
D: Lord of the Rings - ddim angen eglurhad, mae o'n wych.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
S: Fyswn i'n cael diod gyda John Bonham. John Bonham yw un o'r drymars cyntaf nes i erioed wrando arno. Efallai 'swn i'n cael 'chydig o tips gan y dyn ei hun.
D: Jack White, fy arwr cerddorol
O archif Ateb y Galw:
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
S: Dwi'n ffan masif o Duran Duran.
D: Dwi wedi dysgu'r git芒r oddi ar YouTube.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
S: Bosib fyddai'n chwarae dryms.
D: Cael ymarfer band.
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
S:When The Levee Breaks gan Led Zeppelin. Ma' Dad yn ffan mawr o Led Zeppelin a dwi'n cofio clywed hi lot pam o'n i'n tyfu fyny.
Pan nes i ddechra dysgu'n hun i chwarae dryms pam o'n i tua 13/14, When The Levee Breaks oedd un o'r caneuon o'n i'n practisio. Os dwi'n stressed neu'n anhapus am rhywbeth dwi'n rhoi'r g芒n yna 'mlaen. (Bach yn crinj ond 'na ni 'de!)
D: Anodd penderfynu ar un g芒n - ma' rhwng Foxy Lady gan Hendrix neu Since I've Been Loving You Led Zeppelin.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
S: Crymbl afal Ysgol Brynrefs, crymbl afal Ysgol Brynrefs a crymbl afal Ysgol Brynrefs.
D:Sushi, byrgyr a chips, hufen i芒 creme egg.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
S: Josh Homme o'r band Queens of The Stone Age (ma'r boi jysd yn c诺l).
D: Josh Homme neu Jack White.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Unrhyw aelod o'r band Gwilym