Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Artist y diarhebion Cymraeg mewn paent neon
Yn wreiddiol o Forfa Nefyn, mae'r artist Niki Pilkington bellach yn byw yn mhrysurdeb Los Angeles.
Mae wedi gwneud enw iddi ei hun drwy ei lluniau llachar, neon. Ond beth sydd hefyd yn dal dychymyg ei dilynwyr yw ei defnydd o hen ddywediadau Cymraeg yn ei chelf, sy'n cyferbynnu'n llwyr 芒'r paent lliwgar.
Yma, mae Niki yn siarad am ei gwaith, beth sy'n ei hysbrydoli, a'i bwriad i barhau i ddefnyddio'r Gymraeg yn ei lluniau sydd yn cael eu gweld gan filoedd o bobl ar draws y byd.
Cymysgu steil newydd gyda hen ddiarhebion
"O'n i'n gweithio ym Mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog, ar 么l bod yn y coleg (ac yn trio ffeindio allan be' o'n isho'i 'neud) ac o'dd 'na lot o wirfoddolwyr h欧n yno oedd yn defnyddio diarhebion Cymraeg do'n i erioed wedi eu clywed o'r blaen," meddai Niki. "O'n i'n g'neud nodyn ohonyn nhw ac yn mynd adra a sb茂o nhw fyny.
"Nes i ddechrau paentio genod c诺l, edgy ochr-yn-ochr efo'r diarhebion 'ma, a chymysgu steil modern a newydd efo hen ddiarhebion traddodiadol."
Dyna sut y dechreuodd steil celf unigryw Niki, sydd wedi gwneud enw iddi hi ei hun am ei darluniau llachar, sydd ag elfen Gymreig gref wrth galon nifer ohonyn nhw.
Er ei bod wedi byw yn Paris ac America yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac wedi gweithio fel darlunydd i gwmn茂oedd mawr fel Nike, mae hi dal i fynd n么l at yr hen ddywediadau, meddai.
"Dwi dal i barhau i 'neud y pethau Cymraeg, achos dwi'n joio, a dyma 'fy mhobl'! Dwi'n trio dod adra rhyw dair gwaith y flwyddyn i stocio siopau sy'n gwerthu ngwaith i a gweld teulu, a bob tro dwi'n dod n么l, dwi'n clywed rhywbeth newydd ac yn gwneud nodyn ohonyn nhw.
"Dwi hefyd yn g'neud lluniau o anifeiliaid, natur, mapiau... be' bynnag sy'n dod i mhen i. Mae gen i lyfr nodiadau sy'n dod efo fi i bob man a ma' gen i wastad restrau o bethau dwi isho gweithio efo nhw - a ma' gen i lot o lyfrau o hen ddiarhebion!"
Pwysau i 'blesio' ar y gwefannau cymdeithasol
Drwy'r wefan rhannu lluniau Instagram mae ei chelf wedi dod i amlygrwydd ar draws y byd. Ond fel yr eglura Niki, mae yna bwysau mawr i gyhoeddi cynnwys ar lein sydd am gydio - wedi'r cyfan, mae ei lluniau hi'n cystadlu 芒 miliynau o luniau sy'n cael eu cyhoeddi ar Instagram bob dydd.
"Ma'n neis pan ti'n postio 'wbath ma' pobl yn ei licio a'i rannu. Ond weithiau ti'n postio 'wbath ac yn meddwl 'ma hwn yn gr锚t, hwn 'di'r un!', a does 'na'm byd yn digwydd. A dwi'n cwestiynu be' dwi 'di neud yn anghywir. Ma'n gallu bod yn reit anodd.
"Ma' 'na gymaint o bwysa i 'neud celf ac i godi dy broffil - weithia dwi'n gneud lluniau jest ar gyfer Instagram. 'Na i 'neud llun am ddau ddiwrnod a tynnu llun ohono fo, a'i olygu fo am bedair awr a wedyn cymryd amser i'w roi o fyny... jest er mwyn cael pobl i ymateb. Ma' bach yn stiwpid."
Ond mae Niki wedi llwyddo i gronni ar draws y byd, ac wedi denu cwsmeriaid lu, a chriw o gefnogwyr ffyddlon yma yng Nghymru:
"Mae o bendant werth y drafferth. Lle o'r blaen o'n i'n gneud arddangosfa yn Glyn y Weddw ac yn gobeithio byddai 100 person y dydd yn gweld fy lluniau i - r诺an alla i bostio llun a ma' 'na siawns i 60 mil o bobl ei weld o mewn 10 munud!"
Hoffi lliwiau 'garish'
Ar Instagram, mae Niki'n arbrofi ychydig gyda'i chynnwys - yn cyhoeddi fideos ohoni'n paentio, neu yn llwyfannu props o amgylch ei darluniau, gan droi ei darnau celf gwreiddiol yn ddarnau celf newydd. Ond beth sydd yn gyffredin am ei holl luniau yw pa mor lliwgar ydyn nhw.
"Dwi wastad wedi hoffi lliwiau garish - dyna fy trademark r诺an. Weithiau 'na i bostio llun sy' bron yn ddu a gwyn, a dwi wastad yn cal pobl yn deud bo' nhw'n methu'r neon. Mae pobl yn eu 'nabod nhw.
"Ond fy nghariad cynta' i ydi'r lluniau pensil achos dyna lle nes i ddechrau. O'n i isho bod yn fashion illustrator, a g'neud llunia o be' odd ar y runway, ond dwi'n gymaint o berffeithydd, o'n i ddim yn licio'r gorfod gneud llun mewn tri munud!
"Ella 'neith g'neud llun o hogan ac idiom gymryd dau neu dri diwrnod i 'neud - ond dyna dwi'n joio'i 'neud," meddai.
"Ma' paentio yn ffordd dda i ddod 芒 bach o liw i'r lluniau, ac yn gyfle i gael newid, achos mae tynnu lluniau pensil manwl yn straeon ar y llygad. Mae cyfuniad o'r ddau yn rili neis - mae'r pensil yn cymryd oriau i'w 'neud, ac wedyn ma'r paentio ychydig bach yn gyflymach."
Mae Niki'n mwynhau'r rhyddid mae ei swydd yn ei roi iddi, er ei bod hi'n cydnabod ei bod yn rhaid iddi fod yn ddisgybledig wrth weithio:
"Ma' pobl yn meddwl ei fod o'n braf mod i'n cael aros adra yn tynnu lluniau bob dydd - ond 'sa mor hawdd i mi roi pjs mlaen ac ista o flaen y teli! Ma' hefyd yn swydd reit unig - dwi ar fy mhen fy hun lot.
"Ond be' sy'n dda ydi fod gen i ddigon o amrywiaeth yn fy swydd - ma' pob diwrnod yn wahanol. Weithia' dwi'n paentio, weithiau'n gneud llunia' efo pensil, neu'n mynd i ddigwyddiadau, neu'n ffilmio fideo ar gyfer Instagram...
"Mae'n job ryfedd - dwi'n teimlo fel taswn i dal ddim wedi tyfu fyny - ond dwi wrth fy modd."
Efallai o ddiddordeb: