Byddai etholiad cyffredinol 'yn ateb dim', medd Guto Bebb

  • Awdur, Gareth Pennant
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Byddai etholiad cyffredinol ddim yn datrys yr anghytundeb Brexit, yn 么l cyn-weinidog yn Swyddfa Cymru.

Dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb wrth raglen Dewi Llwyd bod pleidlais gynnar yn "bosibilrwydd", ond mynnodd na fyddai'n "ateb dim".

Bydd ASau yn pleidleisio ar gynigion amgen i gynllun Brexit Theresa May yn Nh欧'r Cyffredin yn ddiweddarach ddydd Llun.

Mae'r opsiynau'n amrywio o aelodaeth o'r Undeb Tollau, y Farchnad Gyffredin a gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Mae Mr Bebb wedi pleidleisio yn erbyn cytundeb y prif weinidog dair gwaith ac mae'n cefnogi cynnal refferendwm arall.

Dywedodd: "Mi fydda fo yn fy marn i yn golygu bod hi'n anodd gweld sut y galla'r blaid Lafur, neu'r blaid Geidwadol o ran hynny, ysgrifennu maniffesto achos does 'na ddim cytundeb o fewn y ddwy blaid am y ffordd ymlaen yng nghyd-destun y cwestiwn yma o adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Dwi ddim yn meddwl y bysai'n bosib cael etholiad cyffredinol heb fod 'na nifer helaeth o aelodau yn y ddwy blaid yn ei ffeindio ei hunan mewn sefyllfa lle dydyn nhw methu sefyll yn enw'r blaid y maen nhw ar hyn o bryd yn Aelodau Seneddol ar ei rhan hi."

Ychwanegodd: "Mae'r llanast 'da ni wedi weld dros y ddwy flynedd diwethaf yn awgrymu i mi os ydy rhywbeth yn edrych yn syniad hurt yma mae yna bosibilrwydd bod o'n mynd i ddigwydd.

"Dydw i ddim yn credu y bysa fo'n ateb dim."