Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diffyg brandio Cymreig maes awyr Caerdydd yn 'siomedig'
Mae angen i Faes Awyr Caerdydd wneud mwy o ymdrech i hybu a chodi ymwybyddiaeth o gynnyrch Cymreig.
Daw'r galwadau yn sgil neges ar Twitter yn beirniadu faint o frandio Prydeinig oedd yn siopau'r maes awyr i gymharu 芒 brandio Cymreig.
Yn 么l siop WH Smith mae'r llun gafodd ei rannu yn gamarweiniol, a bod nwyddau Cymreig eu naws ar gael i gwsmeriaid.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r siopau ym Maes Awyr Caerdydd eisoes yn cynnig amrywiol gynnyrch o Gymru, ac rydyn ni'n gweithio gyda'r maes awyr a manwerthwyr i ehangu'r dewis o fwyd a diod o Gymru sy'n cael eu cynnig."
Ymysg y rhai i leisio eu hanfodlonrwydd ar raglen Taro'r Post ddydd Llun oedd Deiniol Carter, oedd o'r farn bod y diffyg brandio Cymreig yn y siop yn "syndod ac yn "siomedig".
Ychwanegodd Mr Carter ei fod yn deall pam bod brandio Prydeinig mewn maes awyr rhyngwladol fel hyn, ond bod angen mwy o bwyslais ar y Ddraig Goch yng Nghymru.
Dywedodd Jack Henry, a gyhoeddodd y llun ar twitter, nad oedd unrhywbeth yn dathlu Cymru na chynnyrch Cymreig yn cael ei arddangos.
Yn 么l y Maes Awyr, rhai o'r cynhyrchion mwyaf poblogaidd yn eu siopau ydy chwisgi Penderyn, aur Clogau, siocled Wickedly Welsh a chynhyrchion Undeb Rygbi Cymru.
Dywedodd Rhiannon Jenkins, llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd eu bod nhw'n "falch iawn i gynnig dewis o gynhyrchion Cymraeg o fewn ein siop WH Smith ac o fewn ein Siopa Di-doll a Di-dreth."
"Rydym yn faes awyr cenedlaethol, maes awyr y brifddinas ond rydyn ni hefyd yn borth allweddol i fewn i'r Deyrnas Unedig, felly mae hi'n bwysig i gynnig cwsmeriaid rhyngwladol dewis.
"Yn fwy ac yn fwy rydyn ni'n gweld cwsmeriaid yn defnyddio'r maes awyr i deithio o wledydd megis Awstralia, Tsiena a Japan, ac mae'n nhw'n gofyn am ddewis Prydeinig yn ogystal 芒 dewis Cymreig cyn iddyn nhw deithio."
Ychwanegodd Ms Jenkins: "Hoffwn ni arddangos mwy o gynhyrchion Cymraeg ac rydyn ni'n gweithio gyda'n manwerthwyr a phartneriaid arlwyo i gynyddu'r dewis."