Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Clychau eglwys hynafol i barhau i ganu yng Nghonwy
Bydd clychau eglwys yng Nghonwy yn parhau i ganu - fel maen nhw wedi gwneud ers bron i 200 mlynedd - er gwaethaf cais gan y ficer i'w diffodd.
Roedd y Parchedig David Parry wedi ysgrifennu llythyr at Gyngor Tref Conwy yn dweud bod y gloch ar d诺r Eglwys y Santes Fair yn ei gadw'n effro.
Ond mae cynghorwyr wedi penderfynu na fydd y clychau, sy'n canu bob chwarter awr, yn cael eu tawelu.
Fe ofynnodd Cyngor Tref Conwy i drigolion y dref hynafol am eu barn nhw.
Cafodd 210 o ymatebion, gyda dim ond chwech yn credu ei bod hi'n syniad da i'w diffodd.
Dywedodd y Parchedig Parry hefyd ei fod yn poeni y gallai'r clychau fod yn tarfu ar ymwelwyr mewn gwestai neu gartrefi cyfagos.
Yr awgrym oedd y byddai'r clychau'n cael eu tawelu rhwng 00:15 a 06:15.
Ond mewn cyfarfod ddydd Mawrth, dywedodd cadeirydd y cyngor, y cynghorydd Goronwy Edwards, fod yr ymgynghoriad yn adlewyrchu barn y cyngor.
Mae Eglwys y Santes Fair yn dyddio'n 么l i'r 12fed ganrif, ond mae gan y cyngor tref gyfrifoldeb dros gynnal y t诺r cloc ers 1841.