Shaun Edwards ddim am reoli Wigan Warriors y tymor nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae clwb rygbi Wigan Warriors wedi cadarnhau na fydd hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards yn cael ei benodi fel eu rheolwr ar ddiwedd y tymor.
Ym mis Awst fe wnaeth Edwards, 52, gyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd gydag Undeb Rygbi Cymru er mwyn dychwelyd i'r clwb rygbi'r gynghrair.
Dywedodd Edwards mai "diffyg paratoi" yw'r rheswm na fyddai'n cymryd y r么l.
Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus gyda Chymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fel rhan o d卯m hyfforddi Warren Gatland, mae disgwyl iddo barhau fel hyfforddwr amddiffyn y t卯m rhyngwladol.
"Mae paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd wedi cael eu symud ymlaen ac felly bydd hi'n amhosib i mi fynd i dreulio wyth wythnos yn Awstralia yn canolbwyntio ar rygbi'r gynghrair," meddai.
Nid yw hi'n glir eto os bydd Edwards yn parhau fel rhan o'r t卯m hyfforddi unwaith y bydd olynydd Gatland, Wayne Pivac yn cymryd y llyw wedi Cwpan y Byd 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018